Cañon City, Colorado
Cañon City (/ˈkænjən_ˈsɪti/) yw'r dref sirol a'r ddinas fwyaf poblog yn Fremont County, Colorado. Poblogaeth y ddinas yn 2010 oedd 16,400. Mae Cañon City ar lan Afon Arkansas ac mae'n ganolfan boblogaidd i dwristiaid oherwydd ei chwaraeon dŵr ewyn-gwyllt, fel rafftio.
Math | dinas yn yr Unol Daleithiau, tref ddinesig |
---|---|
Poblogaeth | 17,141 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Mynyddoedd |
Gefeilldref/i | Kahoku |
Daearyddiaeth | |
Sir | Fremont County |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 32.403072 km² |
Uwch y môr | 1,625 metr |
Gerllaw | Afon Arkansas |
Cyfesurynnau | 38.4467°N 105.228°W |
Hanes
golyguCynlluniwyd y ddinas yn wreiddiol ar 17 Ionawr 1858, yn ystod Rhuthr Aur Pike's Peak, ond safai'r tir yn hesb nes i gwmni fachu'r safle yn hwyr yn 1859 gan adeiladu'r adeilad cyntaf yn Chwefror 1860. Bwriadwyd y ddinas fel canolfan fasnachol ar gyfer mwyngloddio.
Poblogaeth
golyguTyfodd poblogaeth y dref o 229 yn 1870 i 1,501 yn 1880. Yn 2010 roedd wedi tyfu i tua 16,400.
Hynodrwydd
golyguMae'n ddinas yn enwog fel lleoliad naw carchar taleithiol a phedwar dalfa (penitentiary) ffederal. Mae arwydd croeso'r ddinas yn datgan, "Corrections Capital of the World."[1]
Un hynodrwydd arall i'r ddinas yw i'r United States Board on Geographic Names ganiatáu ychwanegu'r 'sgwigl' (tilde]) i enw swyddogol y ddinas yn 1984. Sillafiad swyddogol y ddinas, felly, yw "Cañon City". Newidiwyd yr enw'n swyddogl o Canon City yn 1906 ac yn 1975. Mae'n un o'r ychydig ddinasoedd yn UDA i ddefnyddio Ñ yn ei henw. Yr enghreifftiau eraill yw: La Cañada Flintridge, Califfornia, Española, Peñasco, a Cañones, y tri ym Mecsico Newydd.
Canon City yw cyrchfan Byddin Gêl yn y nofel a'r gyfres deledu distopiaidd The Man in the High Castle. Mae Juliana yn y gyfres yn mynd yno er mwyn cludo rîl ffilm gudd i'r 'dyn yn y castell uchel'. Mae Canon City (ynganir heb y tilde yn y gyfres) yn rhan o diriogaeth niwtral y Mynyddoedd Creigiog sy'n gorwedd rhwng Reich Fawr Naziaidd i'r Dwyrain a Thaleithiau Môr Tawel Japan i'r gorllewin.