Caer Afallen

hen adeilad Gradd II* ger Rhuthun, Sir Ddinbych, Cymru

Ffermdy ffrâm bren a godwyd yn y 15g, rhyw filltir i'r Gogledd-Ddwyrain o Rhuthun, Sir Ddinbych, yw Caer Afallen (weithiau: Caerfallen), sy'n adeilad dau-lawr, hynafol, Gradd II*.[1] Cerfiwyd y dyddiad 1492 ar wal allanol, ond mae ei gymeriad pensaernïol yn awgrymu tŷ llawer mwy diweddar, o tua 1600 efallai; mae'n bosib hefyd ei fod wedi’i adeiladu mewn mwy nag un cyfnod. Mae'r ffenestri'n dyddio o ganol y 19g.

Caer Afallen
Mathffermdy Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol16 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadRhuthun Edit this on Wikidata
SirRhuthun Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr62 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1266°N 3.30524°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion
Awyrlun o Gaer Afallen

Gosodwyd y tŷ ffrâm bren hwn ar lwyfan cadarn o garreg, ac fe'i gorchuddiwyd gyda tho llechen. Mae'r talcenni i'r Gogledd a'r Gorllewin wedi'u gwneud o flociau mawr o gerrig wedi'u trin, gyda thyrrau brics wedi'u mowldio.

Mae'n rhestredig ar radd II* fel ffermdy ffrâm bren is-ganoloesol eithriadol o gain o statws uchelwrol, heb fawr o newid ers ei godi.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Cae'r-afallen; Caerfallen, Ruthin". Coflein (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Medi 2022.