Mae Calendr yn system o fesur amser gyda'r uned lleiaf yn un diwrnod, neu gylchdro ein planed.

Calendr
Enghraifft o:arbenigedd, maes astudiaeth Edit this on Wikidata
Mathcronoleg, system gysyniadol Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscalendar date Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yng Nghymru a thros y rhan fwyaf o'r byd fe ddefnyddir Calendr Gregori sydd wedi'i seilio ar symudiadau'r haul ac sy'n rhannu'r flwyddyn yn 365 neu'n 366 o ddyddiau. Mae 12 mis i bob blwyddyn, a rhwng 28 a 31 o ddyddiau ym mhob mis. Mae wythnos yn 7 diwrnod, gyda phedwar neu fwy o wythnosau mewn mis.

Sail Calendr Gregori yw Calendr Iŵl a sefydlwyd yn nheyrnasiad Iwl Cesar.

Mae gan Galendr Gregori wreiddiau Cristnogol. Cyfeirir at flynyddoedd 'Cyn Crist' (CC) ac 'Oed Crist' (OC). Mae rhai grwpiau - yn arbennig rhai o ddiwyliannau anghristnogol - yn cyfeirio ato fel Calendr yr Oes Cyffredin ac yn defnyddio CE (o'r Saesneg, "Common Era") yn lle OC a BCE (o'r Saesneg, "Before Common Era") yn lle CC. Ffurfiwyd Calendr Gregori er mwyn cysoni union ddyddiad y Pasg.

Mae yna galendrau eraill sydd mewn defnydd eang, yn cynnwys Y Calendr Iddewig, Calendr Celtaidd a'r Calendr Mwslemaidd. Mae yna hefyd galendrau at ddefnyddiau arbennig, fel crefydd neu'r byd ariannol. Seiliwyd rhai calendrau ar symudiadau'r lleuad.

Defnyddir y gair calendr hefyd i ddynodi gwrthrych sy'n dangos manylion y calendr - e.e. calendr wal traddodiadol wedi ei wneud o bapur.

Gweler hefyd

golygu
Chwiliwch am calendr
yn Wiciadur.