Calendr Gregori ydy'r calendr mwyaf cyffredin drwy'r byd; caiff ei ddefnyddio drwy Ewrop.[1][2][3] Cafodd ei dderbyn (yn answyddogol) fel y dull rhyngwladol o fesur amser a dyddiadau ers degawdau yn y byd cyfathrebu, teithio a diwydiant, a chaiff ei adnabod gan sefydliadau rhyngwladol megis y Cenhedloedd Unedig.[4]

Calendr Gregori
Enghraifft o'r canlynolarithmetic calendar, solar calendar, interval scale Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Ionawr 1752, 15 Hydref 1582, Tachwedd 1583, 15 Hydref 1582, 1648, 16 Chwefror 1682, 20 Rhagfyr 1582, 14 Chwefror 1918, 14 Medi 1752, 1 Mawrth 1753, 1 Ionawr 1873 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysGregorian dominical cycle, mis, blwyddyn galendr, wythnos, diwrnod, 1910 Edit this on Wikidata
RhagflaenyddCalendr Iŵl, Tenpō calendar Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Delwedd esboniadol: y newid o galendr Iŵl i galendr Gregori

Fe'i mabwysiadwyd gan y Pab Grigor XIII ar 24 Chwefror 1582, er fod y ddogfen wreiddiol wedi'i dyddio "1581".

Roedd y flwyddyn yng nghalendr Iŵl, a wnaed yn nheyrnasiad Iŵl Cesar, yn cynnwys 365.25 o ddyddiau yn union, ond mae'r flwyddyn drofannol yn union 365.2422 diwrnod, felly pob 4 canrif roedd calendr Iŵl yn cynnwys tridiau yn ormod! Cafodd hyn ei gywiro yn y diwygiad Gregori yn 1582, sy'n cyflwyno'r dyddiau naid mewn dull gwahanol. O ganlyniad i hyn mae calendr Iŵl 13 diwrnod y tu ôl i'r calendr Gregori h.y. y 1af o Ionawr ar galendr Iŵl ydy'r 14eg ar galendr Gregori.

Roedd yr Eglwys Gatholig eisiau calendr a fyddai'n caniatáu iddynt ddathlu'r Pasg ar yr amser a benodwyd gan Gyngor Cyntaf Nicaea yn y flwyddyn 325, sef y dydd Sul wedi 14eg dydd y Lleuad sydd ar (neu wedi'r) Cyhydnos Wanwynol, tua 21 Mawrth yn amser y cyngor. Yn y flwyddyn 325 roedd y nam hwn wedi'i weld, ond, yn hytrach na thrwsio'r calendr symudodd y cyngor ddyddiad y Cyhydnos o 24 Mawrth neu 25 Mawrth i 21 Mawrth! Erbyn y 16eg canrif roedd y cyhydnos wedi symud llawer mwy a mynnodd yr Eglwys Babyddol ddiwygio'r drefn. Y gwledydd Pabyddol, felly, oedd y gwledydd cyntaf i fabwysiadu'r calendr newydd hwn.

Roedd dau newid sylfaenol felly yn y calendr newydd: yn gyntaf, addasu hen galendr Iŵl ac yn ail addasu calendr y lleuad a ddefnyddid gan yr eglwys i nodi dyddiadau'r Pasg. Meddyg o Galbria, sef Aloysius Lilius (neu Lilio), fu'n bennaf gyfrifol am y gwaith o'u cymhathu a'u diwygio. Yn gonglfaen i'w waith nododd fod angen lleihau'r nifer o ddyddiau naid o fewn pob pedair canrif o 100 i 97, gan wneud 3 allan o'r 4 blwyddyn yn gyffredin yn hytrach na blwyddyn naid.

Nodwyd hyn fel a ganlyn:

Os medrid rhannu'r flwyddyn gyda 4 - yn union - yna fe'i hystyrir yn flwyddyn naid, ar wahân i'r blynyddoedd a ellir eu rhannu gyda 100 (yn union). Ar ben hyn, mae'r blynyddoedd hynny y gellir eu rhannu gyda 400 hefyd yn flynyddoedd naid. Er enghraifft, nid ydy'r flwyddyn 1900 yn flwyddyn naid ond mae'r flwyddyn 2000 yn flwyddyn naid.[5]

Calendr heulol ydyw ef mewn gwirionedd. Mae blwyddyn Gregori'n cynnwys 365 diwrnod, ac mewn blwyddyn naid ceir diwrnod naid, sef 29 Chwefror sy'n gwneud cyfanswm o 366 diwrnod. Fel arfer mae blwyddyn naid yn diwgwydd pob pedair mlynedd ond mae'r calendr Gregori'n gadael allan 3 diwrnod naid pob 400 mlynedd, yn wahanol i'r calendr a'i ragflaenodd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Introduction to Calendars Archifwyd 2011-10-19 yn y Peiriant Wayback.. United States Naval Observatory. Retrieved 15 January 2009.
  2. Calendars Archifwyd 2004-04-01 yn y Peiriant Wayback. by L. E. Doggett. Section 2.
  3. Dyma'r ffurf safonol rhyngwladol ar gyfer amser a dyddiadau yn ôl ISO 8601, Adran 3.2.1.
  4. Eastman, Allan. "A Month of Sundays". Date and Time. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-06. Cyrchwyd 2010-05-04. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. Introduction to Calendars Archifwyd 2012-09-01 yn y Peiriant Wayback.. (13 Medi 2007). United States Naval Observatory.

Gweler hefyd golygu