Calgary Stampede
Sioe fawr, rodeo ac arddangosfa yw'r Calgary Stampede, sy'n honni bod "Y Sioe Awyr Agored Fwyaf yn y Byd", a gynhelir yn ninas Calgary, Alberta, Canada am ddeg diwrnod yn yr haf, fel arfer ar ddechrau Gorffennaf, ac sy'n denu tua 1.2 miliwn o ymwelwyr. Mae'n un o ddigwyddiadau blynyddol mwyaf Canada a'r rodeo awyr agored mwyaf yn y byd. Yn ogystal â'r rodeo enwog, mae'n cynnwys sioeau o bob math, cyngherddau, cystadlaethau amaethyddol, rasio chuckwagon, arddgangosfeydd gan Genhedloedd Brodorol Canada, ac atyniadau eraill. Un o'r atyniadau traddodiadol yw Parêd y Stampede ar y diwrnod agoriadol. Mae'n cael ei arwain gan y Calgary Stampede Showband ac yn dilyn llwybr 4.5 km trwy downtown Calgary. Mae tua 350,000 o bobl yn ei wylio.
Enghraifft o'r canlynol | gŵyl, digwyddiad blynyddol |
---|---|
Lleoliad | Calgary |
Sylfaenydd | The Big Four |
Gwladwriaeth | Canada |
Rhanbarth | Alberta |
Gwefan | http://calgarystampede.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan y Calgary Stampede
- (Saesneg) Calgary Stampede Showband Archifwyd 2006-12-06 yn y Peiriant Wayback