Canolfan Masnach y Byd
(Ailgyfeiriad o Canolfan Fasnach y Byd)
Cyfuniad o saith adeilad yn Ninas Efrog Newydd oedd Canolfan Masnach y Byd (Saesneg: World Trade Center). Cynlluniwyd gan y pensaer Americanaidd-Japaniaidd Minoru Yamasaki. Roedd yn cynnwys 13.4 miliwn troedfedd sgwar o swyddfeydd. Y rhannau mwyaf enwog oedd y Ddau Dŵr (neu'r "tyrrau gefell", y Twin Towers) oedd yn 110 llawr. Ar 11 Medi 2001 hedfanwyd dwy awyren yn fwriadol i mewn i'r ddau dŵr mewn ymosodiad terfysgol. Syrthiodd y ddau dŵr gan ladd tua 3,000 o bobl.
Math | cyfadeilad, cyn-adeilad |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | World Trade Center site |
Sir | Manhattan |
Gwlad | UDA |
Arwynebedd | 800,000 m² |
Cyfesurynnau | 40.7114°N 74.0125°W |
Perchnogaeth | Silverstein Properties, Westfield Group |
Cost | 900,980,759 $ (UDA) |
Deunydd | dur gwrthstaen, concrit, marmor |