Canolfan Ofod Kennedy
Safle NASA yn Ynys Merritt, Florida, Unol Daleithiau, yw Canolfan Ofod Kennedy (Saesneg: Kennedy Space Center). Mae wedi cael ei defnyddio ar gyfer lansio llongau gofod ers Rhagfyr 1968. Mae'r ganolfan yn denu twristiaid a cheir neuadd arddangosfa yno, gyda theithiau tywys hefyd.[1]
Math | maes rocedi, sefydliad ymchwil, NASA facility |
---|---|
Enwyd ar ôl | John F. Kennedy |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Eastern Range |
Sir | Brevard County |
Gwlad | UDA |
Uwch y môr | 3 metr |
Cyfesurynnau | 28.58528°N 80.65083°W |
Rheolir gan | NASA |
Hanes
golyguAgorwyd y ganolfan ar 1 Gorffennaf 1962, a chafodd ei henw presennol ar ôl marwolaeth John F. Kennedy ym 1963.
Prosiect Mercher oedd yr un cyntaf, yn lansio unigolion i'r ofod. Wedyn daeth Prosiect Gemini; 10 ehediad, pob un efo 2 o bobl. Adeiladwyd Safle Lansiad 39 rhwng 1962 a 1965 ar gyfer rocedi Sadwrn. Gorffennodd Prosiect Gemini ym 1966.
Bu farw Gus Grissom, Ed White and Roger Chaffee ar 27 Ionawr 1967 yn ystod sesiwn profi ar ddechrau Prosiect Apolo. Arweinodd y prosiect at Apolo 11 ar 16 Gorffennaf 1969 pan aeth Neil Armstrong, Buzz Aldrin a Michael Collins i'r lleuad.[2]
-
Safle Lansiad 39
-
Yr ystafell reoli wreiddiol
-
Gwennol ofod
-
Y neuadd arddangosfaol