Neil Armstrong
Neil Alden Armstrong (5 Awst 1930 – 25 Awst 2012)[1] oedd y gofodwr cyntaf i roi ei droed ar y Lleuad.
Neil Armstrong | |
---|---|
![]() | |
Gofodwr USAF / NASA | |
Cenedligrwydd | Americanwr |
Ganed |
5 Awst 1930 Wapakoneta, Ohio, U.D.A. |
Bu farw |
25 Awst 2012 (82 oed) Cincinnati, Ohio, U.D.A. |
Enwau arall | Neil Alden Armstrong |
Swydd flaenorol | Awyrennwr llyngesol, peilot prawf |
Prifysgol Purdue, B.S. 1955 Prifysgol De Califfornia, M.S. 1970 | |
Rheng | Is-gapten (gradd iau), Llynges yr Unol Daleithiau |
Amser yn y gofod | 8 diwrnod, 14 awr, 12 munud, a 30 eiliad |
Dewiswyd |
1958 USAF Man In Space Soonest 1960 USAF Dyna-Soar 1962 NASA Grŵp 2 |
Cyfanswm EVA | 1 |
Cyfanswm amser EVA | 2 awr 31 munud |
Teithiau | Gemini 8, Apollo 11 |
Bathodyn taith |
![]() ![]() |
Gwobrau |
![]() ![]() ![]() |
Ganed ef yn Wapakoneta, Ohio, yn yr Unol Daleithiau. Astudiodd ym Mhrifysgol Purdue cyn ymuno â Llynges yr Unol Daleithiau. Bu'n ymladd yn Rhyfel Corea. Wedi'r rhyfel bu'n beilot prawf.
Bu yn y gofod am y tro cyntaf ar Gemini 8 yn 1966, pan fu'n gyfrifol gyda David Scott am ddocio dwy long ofod wrth ei gilydd am y tro cyntaf. Ef oedd y pennaeth ar Apollo 11 a laniodd ar y Lleuad ar 20 Gorffennaf, 1969. Treuliodd Armstrong a Buzz Aldrin ddwy awr a hanner ar wyneb y Lleuad tra roedd Michael Collins mewn orbit uwchben.
Neil Armstrong yn dod i lawr yr ysgol gan ddisgrifio'r arwyneb mae'n gweld. Yna, mae'n sefyll ar wyneb y Lleuad ac yn dweud, "That's one small step for [a] man, one giant leap for mankind". |
CyfeiriadauGolygu
- ↑ (Saesneg) US astronaut Neil Armstrong dies, first man on Moon. BBC (25 Awst 2012). Adalwyd ar 25 Awst 2012.