Cañon City, Colorado

dinas, talaith Colorado
(Ailgyfeiriad o Canon City)

Cañon City (/ˈkænjən_ˈsɪti/) yw'r dref sirol a'r ddinas fwyaf poblog yn Fremont County, Colorado. Poblogaeth y ddinas yn 2010 oedd 16,400. Mae Cañon City ar lan Afon Arkansas ac mae'n ganolfan boblogaidd i dwristiaid oherwydd ei chwaraeon dŵr ewyn-gwyllt, fel rafftio.

Cañon City
Mathdinas yn yr Unol Daleithiau, tref ddinesig Edit this on Wikidata
Poblogaeth17,141 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1860 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser y Mynyddoedd Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iKahoku Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirFremont County Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd32.403072 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,625 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Arkansas Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau38.4467°N 105.228°W Edit this on Wikidata
Map
Yn ardal hanesyddol Cañon City saif Gwesty St. Cloud, ar gornel strydoedd "7th" a "Main", ers 1888. Mae'n wag ar hyn o'r bryd. Symudwyd y gwesty bric wrth fric o Silver Cliff, Colorado, yn 1888.
Pont Royal Gorge yn 1987

Cynlluniwyd y ddinas yn wreiddiol ar 17 Ionawr 1858, yn ystod Rhuthr Aur Pike's Peak, ond safai'r tir yn hesb nes i gwmni fachu'r safle yn hwyr yn 1859 gan adeiladu'r adeilad cyntaf yn Chwefror 1860. Bwriadwyd y ddinas fel canolfan fasnachol ar gyfer mwyngloddio.

Poblogaeth

golygu

Tyfodd poblogaeth y dref o 229 yn 1870 i 1,501 yn 1880. Yn 2010 roedd wedi tyfu i tua 16,400.

Hynodrwydd

golygu

Mae'n ddinas yn enwog fel lleoliad naw carchar taleithiol a phedwar dalfa (penitentiary) ffederal. Mae arwydd croeso'r ddinas yn datgan, "Corrections Capital of the World."[1]

Un hynodrwydd arall i'r ddinas yw i'r United States Board on Geographic Names ganiatáu ychwanegu'r 'sgwigl' (tilde]) i enw swyddogol y ddinas yn 1984. Sillafiad swyddogol y ddinas, felly, yw "Cañon City". Newidiwyd yr enw'n swyddogl o Canon City yn 1906 ac yn 1975. Mae'n un o'r ychydig ddinasoedd yn UDA i ddefnyddio Ñ yn ei henw. Yr enghreifftiau eraill yw: La Cañada Flintridge, Califfornia, Española, Peñasco, a Cañones, y tri ym Mecsico Newydd.

Canon City yw cyrchfan Byddin Gêl yn y nofel a'r gyfres deledu distopiaidd The Man in the High Castle. Mae Juliana yn y gyfres yn mynd yno er mwyn cludo rîl ffilm gudd i'r 'dyn yn y castell uchel'. Mae Canon City (ynganir heb y tilde yn y gyfres) yn rhan o diriogaeth niwtral y Mynyddoedd Creigiog sy'n gorwedd rhwng Reich Fawr Naziaidd i'r Dwyrain a Thaleithiau Môr Tawel Japan i'r gorllewin.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Welch, Michael; Turner, Fatiniyah (2007). "Private Corrections, Financial Infrastructure, and Transportation: The New Geo-Economy of Shipping Prisoners". Social Justice 34 (3): 57. JSTOR 29768464.