Capel Llwyn-yr-hwrdd
Capel sy'n perthyn i'r Annibynnwyr, ger Tegryn yng ngogledd Sir Benfro yw Capel Llwyn-yr-hwrdd.
Mae bedd Morgan Jones, Trelech yma, perchennog y tir yr adeiladwyd y capel arno. Fe rodd y tir er mwyn codi'r capel am brydles o 999 o flynyddoedd am swllt y flwyddyn ar yr amod fod yr aelodau i gredu yn athrawiaeth y Drindod a phump pwnc Calfiniaeth.