Capel
Adeilad ar gyfer gwasanaethau crefyddol Cristnogol yw Capel. Daw'r gair o'r Lladin capella, bychanig y gair cappa, "mantell". Y cysylltiad yw mantell Sant Martin o Tours (316 - 397), a gedwid fel crair crefyddol, ac a roddodd yr enw i'r adeilad.
Enghraifft o'r canlynol | building type |
---|---|
Math | eglwys, adeiladwaith pensaernïol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn yr Eglwys Gatholig, defnyddir "capel" fel term am adeilad lle gellir gweinyddu'r offeren, ond nad yw'n eglwys y plwyf. Defnyddir y term hefyd am ystafell ochr mewn eglwys. Yng Nghymru, dyma'r term arferol ar gyfer lle o addoliad Ymneilltuol, a cheir nifer fawr ohonynt.
Adeiladwaith capeli
golyguY Gwaith Coed
golyguMath o goed
golyguBeth oedd tarddiad coed y to a choed y dodrefn mewn capeli? I ble daeth y deunydd crai? Oedd y coed yn wahanol mewn gwahanol enwadau. Dyma nodyn sy'n codi'r cwestiynau a chyflwyno'r pwnc, gan Wil Williams:
Pitch Pine (pinwydden pyg): Dyma lun Ronnie Jeffers[1] o'r pentra ‘ma [Bethel, Bodorgan], yn atic Capel MC Bethel. Mae Ronnie'n arbenigwr ar doi - wedi bod yn gweithio ar stad leol am hanner cant o flynyddoedd. Sbiwch ar faint coed y to! Pitch pine, siwr o fod. Sut yn y byd oeddan nhw'n cael y coed i'r safle i ddechra (o ystyried mai tua 3- 4 llath o hyd oedd trol) a sut oeddan nhw'n codi'r fath goed ar dop y walia sydd tua ugain troedfedd o uchder. Mae'r coed sydd yn rhedeg led y capel yn 9"x 15" a tua 40 troedfedd o hyd.
Ffawydd Melyn: Roedd y diweddar Arfon Prichard, Garndolbenmaen wastad yn cyfeirio at y "pitch pein" fel "ffawydd melyn": "ew, hen bren da. Eith y pry' ddim ar ei gyfyl" meddai.[angen ffynhonnell]
- Fagus sylvatica ffawydden, ffawydd
- Pinus palustris ffawydden felen, ffawydd melyn
Economi ac ymarferoldeb
golyguA bwrw mai pinwydd pyg oedd prif ddeunydd adeiladwaith pren capeli a'u dodrefn, beth oedd y broses economaidd ac ymarferol rhwng de-ddwyrain yr UD a safle'r capel; o feddiannu'r coed ar eu traed yn ne Carolina, trwy eu cwympo a'u cludo, i'r cyrraedd a'u trin?
Pinus palustris ydi pitch pine i ni, ond Pinus rigido ydi pitch pine yn Wikipedia, hefo Pinus palustris yn cael ei alw yn longleafe pine. Tybad faint sydd gan y Methodistiaid Calfinaidd i neud hefo mewnforio pitch pine i adeiladu eu capeli yn ystod y ddeunawfed ganrif? Yn Ships and Seamen of Anglesey 1558 - 1918 gan Aled Eames, ceir hanes y teulu Davies, Porthaethwy, yn mynd a pobl a llechi i Ogledd America a dwad a llwythi o goed yn ôl. Buasa'n ddiddorol cael gwybod os mai pitch pine oedd y llwythi coed hynny.[2]
Soniodd 'Wyn Pen Lon', Niwbwrch, (saer da a gafodd ei brentisio gyda chriw cynnal y chadw Stad Bodorgan, cyn mentro dechrau busnes llwyddiannus fel saer hunan gyflogedig) fel hyn:
"Cafodd Plas Bodorgan ei ail adeiladu rhwng 1780 a 1784 - dechra y cyfnod o adeiladu capeli ? Roedd Wyn yn deallt i'r coed a ddefnyddwyd i adeiladu y plasdy wedi eu nofio ar hyd y Fenai, heibio Llanddwyn ac i aber Afon Cefni, o Borthaethwy i Bodorgan! Coed oedd rhain wedi eu mewnforio o Ogledd America i Borthaethwy gan y teulu Davies mae'n debyg".[3]
Y Gwaith Cerrig
golyguDyma ddisgrifiad cyfoes o'r gwaith gwirfoddol caled a wnaethpwyd i godi un capel yn Nhywyn Meirionnydd (boed nodweddiadol neu beidio):
"Pan benderfynnodd henaduriaid Eglwys Bethel, Tywyn adeiladu capel mwy ei faint yn 1871 "darfu i ffermwyr a chertwyr yr Eglwys gario y defnyddiau at ei adeiladu yn rhad ..... ac fe gododd Mr John Daniel, Caethle, a'i was yn fore fore er mwyn cael mynd â'r llwyth cyntaf at y deml newydd, ac aed i lan y môr am lwyth o gerrig ...... gan fod y llwyth yn drwm torrodd echel y drol a methwyd myned gam ymhellach, a daeth Mr Rowland Edward, y Vaenol, a'i lwyth heibio iddynt"[4][5]
Lleoedd
golyguCeir nifer o enwau lleoedd yng Nghymru gyda "Capel" ynddynt, er enghraifft
Ceir hefyd lawer o enwau beiblaidd ar bentrefi oedd yn wreiddiol yn enw ar gapel, er enghraifft Bethesda.
Llyfryddiaeth
golygu- Owen, D. Huw Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005)
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ gweler Bwletin Llên Natur rhifyn 56, t. 3
- ↑ Wil Williams ym Mwletin Llên Natur rhifyn 56 (tudalen 3)
- ↑ Wil Williams (cys. pers. a D.W. Williams (1986), Canu Mawl i Deulu Bodorgan (llyfryn i nodi'r achlysur uchod gan y WEA)
- ↑ Jones, Meredith, 1929, Ychydig o Hanes Eglwys Bethel, Towyn. cyh. J. Wynne Williams
- ↑ Gweler Dyddiadur Edward Edwards, Tywyn, Meirionnydd