Caprys

Ffrwyth neu flagur bwytadwy'r llwyn caprysen, Capparis spinosa

Blagur blodau bwytadwy'r llwyn caprysen, Capparis spinosa, yw caprys, sy'n cael eu defnyddio fel sesnin neu addurno mewn coginio. Mae llwyn caprysen yn blanhigyn lluosflwydd o'r ardal Môr y Canoldir sy'n dwyn dail crwn, cigog a blodau mawr gwyn i binc-gwyn. Mae'r blagur anaeddfed yn cael eu sychu yn yr haul ac yna'n cael eu trin â halen neu heli neu finegr neu win er mwyn eu piclo.

Caiff ffrwyth y llwyn, aeron caprys, eu piclo mewn ffordd debyg, ac yn aml maent yn cael eu bwyta mewn hors-d'oeuvres neu mezze yn debyg iawn i olewydd.

Mae caprys yn cael eu categoreiddio yn ôl eu maint, a'r meintiau lleiaf yw'r rhai mwyaf dymunol a drutaf: "non-pareil" (hyd at 7 mm), "surfines" (7–8 mm), "capucines" (8–9 mm), "capotes" (9–11 mm), "fines" (11–13 mm), a "grusas" (14+ mm).

Mae gan gaprys lawer o ddefnyddiau yn y gegin. Mae ganddynt gysylltiad naturiol â physgod, ac maent yn rhan hanfodol o nifer o sawsiau, gan gynnwys saws tartar, a'r salsa verde Eidalaidd.