Cerbyd a chanddo waelod llyfn neu ddwy neu ragor o lyfrau llyfn a chymharol gul ar ei hyd ac sy'n teithio trwy lusgo dros arwyneb yw car llusg neu sled.

Car llusg
Delwedd:Sleigh from dutch slee.jpg, Sleigh.jpg
Mathcerbyd tir, offer chwaraeon, Ceffyl a throl Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bachgen ar gar llusg, 1945
Car llusg wedi'i dynnu gan geffylau yn yr Wcrain

Mae ceir llusg gan amlaf yn cael eu defnyddio ar eira neu rew, ond mewn rhai achosion gellir eu defnyddio ar unrhyw arwynebau, yn arbennig rhai sydd ag ychydig iawn o ffrithiant, fel tywod neu borfa gwlyb. Mae ceir llusg fel arfer yn cael eu defnyddio ar eira gan ei fod yn lleihau'r ffrithiant ac yn hwyluso cludo llwythau trwm. Gellir eu defnyddio i gludo teithwyr, cargo, neu'r ddau.

Gall ceir llusg gael eu tynnu gan anifeiliaid, fel ceffylau neu geirw, neu trwy ddull arall, neu gael eu defnyddio ar oledd fel eu bod yn symud dan bwysau disgyrchiant.

Defnyddir y gair toboggan weithiau yn gyfystyr a char llusg neu sled, ond mae hwnnw fel arfer yn cyfeirio at fath penodol sydd heb lyfrau (darnau penodol o gar sy'n cyffwrdd â'r ddaear tra bod y gweddill ohono wedi'i godi yn uwch, hynny yw, nid cyfrolau â thudalennau).