Wcráin

gwlad yn nwyrain Ewrop
(Ailgyfeiriad oddi wrth Yr Wcráin)

Gwlad a gweriniaeth yn nwyrain Ewrop yw Wcráin. Ystyr y gair "Wcráin" yw'r "wlad gyda ffiniau" (yn debyg i'r "Mers" rhwng Cymru a Lloegr, a gwledydd cyfagos iddi yw Ffederasiwn Rwsia, Belarws, Gwlad Pwyl, Slofacia, Hwngari, Rwmania a Moldofa. Ei ffin i'r de yw'r Môr Du ac i'r de ddwyrain ohoni mae'r Môr Azov. Yn y cyfrifiad diwethaf, roedd poblogaeth y wlad yn 41,588,354 (1 Ionawr 2021)[1].

Wcráin
Lesser Coat of Arms of Ukraine.svg
''Україна
Ukrayina''
Flag of Ukraine.svg
MathGwlad
PrifddinasKyiv Edit this on Wikidata
Poblogaeth41,588,354 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
AnthemAnthem genedlaethol Wcráin Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethDenys Shmyhal Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00, EET, Europe/Kyiv Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Wcreineg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDwyrain Ewrop, Cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
GwladWcráin Edit this on Wikidata
Arwynebedd603,629 ±1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBelarws, Gwlad Pwyl, Slofacia, Hwngari, Rwmania, Moldofa, Rwsia, yr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49°N 32°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCabined y Gweinidogion Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholVerkhovna Rada Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Wcráin Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethVolodymyr Zelenskyy Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Wcráin Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethDenys Shmyhal Edit this on Wikidata
Europe-Ukraine (и не контролируемые).png
Arianhryvnia Edit this on Wikidata
Canran y diwaith8 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.498 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.773 Edit this on Wikidata

Mae gan Wcráin arwynebedd o 603,628 km2 (233,062 mi sgw), sy'n golygu mai hi yw'r wlad fwyaf yn Ewrop (o'r gwledydd hynny sy'n gyfan gwbl o fewn Ewrop).[2][3][4]

Gwladychwyd neu meddiannwyd ei thiroedd gan fodau dynol tua 44,000 o flynyddoedd yn ôl,[5] ac mae'n ddigon posib mai yma y dofwyd y ceffyl am y tro cyntaf,[6][7][8][9] a'r fan lle y cychwynnwyd siarad Ieithoedd Indo-Ewropeaidd.

Mae ehangder ei thiroedd a'i ffermydd ffrwythlon dros y blynyddoedd yn golygu ei bod ymhlith y gwledydd gorau am gynhyrchu grawn ac yn 2011, Wcráin oedd y trydydd gorau drwy'r byd.[10] Yn ôl Cyfundrefn Masnach y Byd, mae Wcráin, felly'n un o'r 10 gwlad mwyaf dymunol i'w meddiannu.[11] Ar ben hyn, mae ganddi un o'r diwydiannau creu awyrennau gorau.

Ceir poblogaeth o oddeutu 44.6 miliwn o bobl gyda 77.8% ohonyn nhw o darddiad Wcreinaidd, 17% yn Rwsiaid, Belarwsiaid, Tatariaid neu'n Rwmaniaid. Wcreineg yw'r iaith swyddogol a'i gwyddor yw'r wyddor Gyrilig Wcraneg. Siaredir y Rwsieg hefyd gan lawer. Y grefydd fwyaf yn y wlad yw'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol sydd wedi dylanwadu'n helaeth ar bensaernïaeth y wlad yn ogystal a'i llenyddiaeth a'i cherddoriaeth.

Roedd hi'n rhan o'r Undeb Sofietaidd.

GeirdarddiadGolygu

Ceir sawl esboniad am eirdarddiad (neu etymoleg) yr enw Wcráin. Yn ôl un o'r esboniadau cyntaf a hynaf, mae'n golygu "ffiniau",[12] tra bod rhai astudiaethau ieithyddol mwy diweddar yn honni ystyr gwahanol, sef "mamwlad, rhanbarth, neu wlad".[13]

Yn y Saesneg, arferai The Ukraine fod y ffurf mwyaf cyffredin, a hynny trwy gydol yr 20g,[14] ond ers Datganiad Annibyniaeth Wcráin ym 1991, mae "yr Wcráin" wedi dod yn llai cyffredin yn y byd Saesneg ei iaith, ac mae llawer o ganllawiau'n rhybuddio yn erbyn ei ddefnyddio mewn ysgrifennu proffesiynol.[15][16] Yn ôl llysgennad yr Unol Daleithiau William Taylor, mae "The Ukraine" bellach yn awgrymu diystyru sofraniaeth y wlad.[17] Safbwynt swyddogol Wcrain yw bod y defnydd o "'yr Wcráin' yn anghywir yn ramadegol ac yn wleidyddol."[18]

DaearyddiaethGolygu

Gweler hefyd: Rhestr dinasoedd Wcráin.

 
Golygfa o Barc Cenedlaethol Carpathia a Hoverla, sef mynydd 2,061 metr - mynydd uchaf Wcráin

Mae Wcráin yn wlad fawr yn Nwyrain Ewrop, sy'n gorwedd yn bennaf yng Ngwastadedd Dwyrain Ewrop. Hi yw'r wlad Ewropeaidd ail-fwyaf, ar ôl Rwsia. Mae'n cynnwys ardal o 603,628 metr sg ac mae ganddi arfordir o 2,782 km.[19] Mae'n gorwedd rhwng lledredau 44 ° a 53 ° Gog, a hydoedd 22 ° a 41 ° Dwyr.

Mae adnoddau naturiol sylweddol yn Wcrain yn cynnwys mwyn haearn, glo, manganîs, nwy naturiol, olew, halen, sylffwr, graffit, titaniwm, magnesiwm, caolin, nicel, mercwri, pren a digonedd o dir âr. Er gwaethaf hyn, mae'r wlad yn wynebu nifer o faterion amgylcheddol mawr fel cyflenwadau annigonol o ddŵr yfed, datgoedwigo, llygredd aer a dŵr, ynghyd â ymbelydredd damwain 1986 Atomfa Niwclear Chernobyl.[20]

HinsawddGolygu

 
Dosbarthiad hinsawdd Köppen yn Wcrain

Mae gan Wcrain hinsawdd dymherus ar y cyfan, ac eithrio arfordir deheuol y Crimea sydd â hinsawdd isdrofannol.[21] Mae'r hinsawdd yn cael ei dylanwadu gan aer gweddol gynnes a llaith sy'n dod o Gefnfor yr Iwerydd.[22] Gall y tymeredd blynyddol cyfartalog amrywio o 5.5–7 °C (41.9–44.6 °F) yn y gogledd, i 11–13 °C (51.8–55.4 °F) yn y de.[22] Dosberthir y dyodiad yn anghymesur: mae ar ei uchaf yn y gorllewin a'r gogledd ac ar ei isaf yn y dwyrain a'r de-ddwyrain.[22] Mae Gorllewin Wcráin, yn enwedig ym Mynyddoedd Carpathia, yn derbyn tua 1,200 mm o law yn flynyddol, tra bod Crimea ac ardaloedd arfordirol y Môr Du yn derbyn tua 400 mm.[22] Mewn cymhariaeth, ceir cyfartaledd o 4,473 mm o law ar y Grib Goch, yr Wyddfa, yn flynyddol.[23]

BioamrywiaethGolygu

Mae Wcráin yn cynnwys chwe ecoregions daearol: coedwigoedd cymysg Canol Ewrop, cyfadeilad coedwigoedd Isdrofannol y Crimea , paith coedwig Dwyrain Ewrop, coedwigoedd cymysg Pannonaidd, coedwigoedd conwydd mynyddig Carpathia, a'r paith Pontig.[24] Mae Wcráin yn gartref i gasgliad amrywiol o anifeiliaid, ffyngau, micro-organebau a phlanhigion. 

HanesGolygu

  Prif erthygl: Hanes Wcráin

Hanes cynnarGolygu

 
Pectoral Sgythian Aur, neu ddarn gwddf, o kurgan (safle brenhinol) yn Pokrov, wedi'i ddyddio i'r 4g CC

Gwelir anheddiad Neanderthalaidd yn Wcráin yn safleoedd archeolegol Molodova (43,000-45,000 CC) sy'n cynnwys esgyrn mamoth.[25][26] Gellir cymharu hyn gyda'r darganfyddiad o ddant Neanderthal yn Ogof Bontnewyd, sy'n dyddio nôl i tua 225,000 o flynyddoedd CP. Ystyrir mai yma hefyd yw'r lleoliad mwyaf tebygol lle dofwyd ceffylau am y tro cyntaf.[8][27][28][29]

Caiff anheddiadau dynol modern yn Wcráin a'i gyffiniaueu dyddio'n ôl i 32,000 CC, gyda thystiolaeth o'r diwylliant Grafetaidd ym Mynyddoedd y Crimea.[30][31] Erbyn 4,500 CC, roedd diwylliant Oes Newydd y Cerrig (neu'r Neolithig) Cucuteni-Trypillia yn ffynnu mewn ardaloedd eang o Wcráin gan gynnwys Trypillia a'r cyfan o Dnieper-Dniester. Yn ystod yr Oes Haearn roedd Cimeriaid, Sgythiaid a Sarmatiaid yn byw ar y tir hwn.[32] Rhwng 700 CC a 200 CC roedd yn rhan o'r Deyrnas Sgythian, neu Sgythia.

Gan ddechrau yn y 6g CC, sefydlwyd cytrefi o Groeg yr Henfyd, Rhufain hynafol, a'r Ymerodraeth Fysantaidd, megis Tyras, Olbia, a Chersonesus, ar lan ogledd-ddwyreiniol y Môr Du. Ffynnodd y cytrefi hyn ymhell i'r 6g OC. Arhosodd y Gothiaid yn yr ardal, ond daethant o dan ddylanwad yr Hyniaid o'r 370au OC ymlaen. Yn y 7g, y diriogaeth sydd bellach yn nwyrain Wcrain oedd canolbwynt Bwlgaria Fawr. Ar ddiwedd y ganrif, ymfudodd mwyafrif llwythau'r Bwlgar i gyfeiriadau gwahanol, a chymerodd y Khazariaid drosodd lawer o'r tir.[33]

Yn y bumed a'r 6g, roedd yr Antes wedi'u lleoli yn nhiriogaeth yr hyn sydd bellach yn Wcráin. Roedd yr Antes yn hynafiaid i'r Wcreiniaid: Croatiaid Gwyn, Severiaid, Polans, Drevlyans, Dulebes, Ulichianiaid, a Tiverianiaid. Sefydlodd ymfudiadau o Wcráin ledled y Balcanau lawer o genhedloedd De Slafaidd. Arweiniodd ymfudiadau gogleddol, a gyrhaeddodd bron i Llyn Ilmen, at ymddangosiad y Slafiaid Ilmen, Krivichs, a Radimichiaid, llinach y Rwsiaid. Ar ôl cyrch Avar yn 602 a chwymp Undeb Antes, goroesodd y mwyafrif o'r bobloedd hyn fel llwythau ar wahân tan ddechrau'r ail mileniwm.[34]

Oes Aur KyivGolygu

 
Arweiniodd bedydd yr Uwch Dywysog Vladimir yn 988 at fabwysiadu Cristnogaeth yn Kievan Rus'.

Sefydlwyd ‘Kievan Rus’ yn nhiriogaeth y Polans Dwyreiniol, a oedd yn byw ymhlith afonydd Ros, Rosava, a Dnieper. Daeth yr hanesydd Rwsiaidd Boris Rybakov arbenigwr mewn ieithyddiaeth a chroniclau Rwsia i'r casgliad bod undeb Polans o lwythi'r rhanbarth canol Dnieper yn galw ei hun wrth enw un o'i lwythi, "Ros", a ymunodd â'r undeb ac a oedd yn hysbys o leiaf ers y 6g ymhell y tu hwnt i'r byd Slafaidd.[35] Mae tarddiad tywysogaeth Kyiv yn ddadl fawr ac mae o leiaf dair fersiwn yn bodoli, yn dibynnu ar y dehongliadau o'r croniclau.[36] Yn gyffredinol credir bod Kievan Rus' yn cynnwys rhan ganolog, orllewinol a gogleddol Wcráin fodern, Belarus, llain ddwyreiniol bellaf Gwlad Pwyl a rhan orllewinol Rwsia heddiw. Yn ôl y Prif Gronicle roedd elit y Rus yn cynnwys Varangiaid o Sgandinafiaid i ddechrau.[37]

Ail Ryfel BydGolygu

 
Datblygiad tiriogaethol SSR Wcráin, 1922–1954

Yn dilyn Goresgyniad Gwlad Pwyl ym Medi 1939, rhannodd milwyr yr Almaen a Rwsia diriogaeth Gwlad Pwyl. Felly, daeth Dwyrain Galicia a Volhynia gyda'u poblogaeth Wcrain yn rhan o Wcráin. Am y tro cyntaf mewn hanes, unwyd y genedl.[38][39]

Ymosododd byddinoedd yr Almaen ar yr Undeb Sofietaidd (gw. Cyrch Barbarossa) ar 22 Mehefin 1941, gan gychwyn bron i bedair blynedd o ryfela. I ddechrau, datblygodd yr Echel yn erbyn ymdrechion enbyd ond aflwyddiannus y Fyddin Goch. Ym mrwydr amgylchynu Kiev, cafodd y ddinas ei chanmol fel " Dinas-Arwr ", oherwydd ei gwrthwynebiad ffyrnig. Lladdwyd neu cymerwyd mwy na 600,000 o filwyr Sofietaidd yno, gyda llawer yn dioddef camdriniaeth ddifrifol.[40][41]

Er bod mwyafrif yr Iwcraniaid wedi ymladd yn y Fyddin Goch,[42] yng Ngorllewin Wcrain cododd mudiad Byddin Gwrthryfel Wcrain annibynnol (UPA, 1942). Fe'i sefydlwyd fel llu arfog tanddaear (Mudiad Cenedlaetholwyr Wcreineg, OUN)[43][44] ac fe ddatblygodd yng Ngwlad Pwyl rhwng y ddau ryfel fel sefydliad cenedlaetholgar. Yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel, roedd polisïau llywodraeth Gwlad Pwyl tuag at y lleiafrif Wcreineg yn gynnes iawn i ddechrau, ond erbyn diwedd y 1930au daethant yn fwyfwy llym oherwydd aflonyddwch sifil. Cefnogodd y ddau sefydliad, OUN ac UPA y nod o wladwriaeth Wcreineg annibynnol.

Gan ddechrau yng nghanol 1943 ac yn para tan ddiwedd y rhyfel, cynhaliodd UPA cyrchoedd dileu Pwyliaid ethnig yn rhanbarthau Volhynia a Dwyrain Galicia, gan ladd tua 100,000 o sifiliaid Pwylaidd.[45] Roedd y cyflafanau trefnus yn ymgais gan OUN i greu gwladwriaeth Wcreineg homogenaidd heb leiafrif Pwylaidd yn byw o fewn ei ffiniau, ac i atal y wladwriaeth Bwylaidd ar ôl y rhyfel rhag honni ei sofraniaeth dros ardaloedd a oedd wedi bod yn rhan o Wlad Pwyl cyn y rhyfel.[46] Ar ôl y rhyfel, parhaodd yr UPA i ymladd yr Undeb Sofietaidd tan y 1950au.[47][48] Ar yr un pryd, ymladdodd Byddin Annibyniaeth Wcrain, mudiad cenedlaetholgar arall, ochr yn ochr â'r Natsïaid. 

 
Dioddefodd Kiev yn aruthrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac fe'i meddiannwyd gan yr Almaenwyr rhwng 19 Medi 1941 hyd at 6 Tachwedd 1943.

Amcangyfrifir bod cyfanswm yr Iwcraniaid ethnig a ymladdodd yn rhengoedd y Fyddin Sofietaidd rhwng 4.5 miliwn[42]"World wars". Encyclopedia of Ukraine. Cyrchwyd 20 December 2007.</ref> a 7 miliwn.[49] Amcangyfrifir bod y niferoedd a ymladdodd fel milwyr gerila, pleidiol i'r Sofietiaid yn Wcrain yn 47,800 ar y dechrau, i tua 500,000 yn ei anterth ym 1944, gyda thua 50% yn Wcraniaid ethnig.[50] Yn gyffredinol, mae ffigurau Byddin Gwrthryfel Wcrain yn annibynadwy, gyda ffigurau'n amrywio o 15,000 i gymaint â 100,000 o ymladdwyr.[51][52]

Ar ôl yr Ail Ryfel BydGolygu

Difrodwyd y weriniaeth yn drwm gan y rhyfel, ac roedd angen ymdrechion sylweddol i'w hadfer. Dinistriwyd dros 700 o ddinasoedd a threfi a 28,000 o bentrefi.[53] Gwaethygwyd y sefyllfa gan newyn ym 1946-47, a achoswyd gan ddinistr y rhyfel. Mae'r nifer a fu farw yn y newyn hwn yn amrywio, gyda hyd yn oed yr amcangyfrif isaf yn y degau o filoedd.[54] Ym 1945, daeth SSR Wcráin yn un o aelodau-sefydlu cyntaf y Cenhedloedd Unedig,[55] rhan o gytundeb arbennig yng Nghynhadledd Yalta.[56]

Erbyn 1950, roedd y weriniaeth wedi rhagori ar lefelau cynhyrchu diwydiannol cyn y rhyfel.[57] Yn ystod cynllun pum mlynedd 1946-1950, buddsoddwyd bron i 20% o'r gyllideb Sofietaidd yn Wcrain, cynnydd o 5% o gynlluniau cyn y rhyfel. O ganlyniad, cododd gweithlu Wcrain 33.2% rhwng 1940 a 1955 tra tyfodd allbwn diwydiannol 2.2 gwaith yn yr un cyfnod. 

Yn fuan daeth Wcráin Sofiet yn arweinydd Ewropeaidd ym maes cynhyrchu diwydiannol,[58] ac yn ganolfan bwysig yn y diwydiant arfau Sofietaidd ac ymchwil uwch-dechnoleg. Arweiniodd rôl mor bwysig at ddylanwad mawr yr elît lleol. Daeth llawer o aelodau arweinyddiaeth yr Sofietiaid o Wcráin, yn fwyaf arbennig Leonid Brezhnev. Yn ddiweddarach, fe gymerodd le Khrushchev a daeth yn arweinydd Sofietaidd rhwng 1964 a 1982. Daeth llawer o chwaraewyr, gwyddonwyr ac artistiaid amlwg o Wcráin. 

Ar 26 Ebrill 1986, ffrwydrodd adweithydd yn Atomfa Niwclear Chernobyl, gan arwain at drychineb Chernobyl, damwain yr adweithydd niwclear gwaethaf mewn hanes.[59] Hwn oedd yr unig ddamwain i dderbyn y sgôr uchaf bosibl o 7 gan y Raddfa Digwyddiad Niwclear Rhyngwladol, tan drychineb niwclear Fukushima Daiichi ym mis Mawrth 2011.[60] Ar adeg y ddamwain, roedd 7 miliwn o bobl yn byw yn yr ardal, gan gynnwys 2.2 miliwn yn Wcráin.[61]

AnnibyniaethGolygu

 
Llofnododd Arlywydd Wcráin Leonid Kravchuk ac Arlywydd Ffederasiwn Rwsia Boris Yeltsin Cydsyniadau Belavezha, gan ddiddymu'r Undeb Sofietaidd, ar 8 Rhagfyr 1991

Ar 21 Ionawr 1990,[62] trefnwyd cadwyn ddynol fel rhan o'r ymgyrch dros annibyniaeth Wcráin rhwng Kiev a Lviv, er cof am uniad 1919 (Deddf Uno) Gweriniaeth Pobl Wcráin a Gweriniaeth Genedlaethol Gorllewin Wcráin. Daeth dinasyddion allan i'r strydoedd a'r priffyrdd, gan ffurfio cadwyni o bobl yn dal dwylo i gefnogi annibyniaeth eu gwlad.

Ar 16 Gorffennaf 1990, mabwysiadodd y senedd newydd y Datganiad o Sofraniaeth Gwladwriaethol Wcráin.[63] Sefydlodd hyn egwyddorion hunanbenderfyniad, democratiaeth, annibyniaeth, a blaenoriaeth cyfraith Wcráin dros gyfraith Sofietaidd. Fis yn gynharach, mabwysiadwyd datganiad tebyg gan senedd SFSR Rwsia. Dechreuodd hyn gyfnod o wrthdaro â'r awdurdodau Sofietaidd canolog. Ar Hydref 2–17, 1990, cynhaliwyd "y Chwyldro ar Wenithfaen" yn Wcráin, prif bwrpas y weithred oedd atal llofnodi cytundeb undeb newydd yr Undeb Sofietaidd. Bodlonwyd gofynion y myfyrwyr trwy lofnodi penderfyniad o'r Verkhovna Rada, a oedd yn gwarantu eu gweithredu.[64]

Ym mis Awst 1991, ceisiodd carfan ymhlith arweinwyr Comiwnyddol yr Undeb Sofietaidd coup i gael gwared ar Mikhail Gorbachev ac adfer pŵer y blaid Gomiwnyddol. Ond wedi iddi fethu, ar 24 Awst 1991, mabwysiadodd senedd Wcrain y Ddeddf Annibyniaeth.[65]

Y Chwyldro OrenGolygu

  Prif erthygl: Y Chwyldro Oren
 
Protestwyr yn Sgwâr Annibyniaeth ar ddiwrnod cyntaf y Chwyldro Oren

Yn 2004, cyhoeddwyd mai Viktor Yanukovich, y Prif Weinidog ar y pryd, oedd enillydd yr etholiadau arlywyddol, a oedd wedi eu rigio, fel y dyfarnodd y Goruchaf Lys yn ddiweddarach.[66] Achosodd hyn gryn ymateb gan y bobl, fel cefnogaeth i ymgeisydd yr wrthblaid, Viktor Yushchenko, a heriodd y canlyniad. Yn ystod misoedd cythryblus y chwyldro, yn sydyn aeth yr ymgeisydd Yushchenko yn ddifrifol wael, a buan y canfuwyd gan grwpiau meddygon annibynnol lluosog iddo gael ei wenwyno gan ddeuocsin TCDD.[67][68] Roedd Yushchenko yn amau'n gryf mai Rwsia wnaeth ei wenwyno.[69] Yn y pen draw, arweiniodd hyn oll at y Chwyldro Oren heddychlon, gan ddod â Viktor Yushchenko a Yulia Tymoshenko i rym, wrth fwrw Viktor Yanukovych yn wrthblaid.[70]

Goresgyniad gan RwsiaGolygu

GwleidyddiaethGolygu

Mae Wcráin yn weriniaeth o dan system lled-arlywyddol lled-seneddol gymysg gyda changhennau deddfwriaethol, gweithrediaeth (ecseciwtif) a barnwrol ar wahân. Enw'r senedd yw'r Verkhovna Rada.

Cyfansoddiad WcráinGolygu

 
Yn yr oes fodern, mae Wcráin wedi dod yn wlad fwy democrataidd.[71][72][73][74] Mae'r llun hwn yn dangos etholwyr yn pleidleisio mewn etholiad seneddol yn 2007. Sylwer ar y blychau pleidleisio tryloyw.

Gyda chyhoeddi annibyniaeth ar 24 Awst 1991, a mabwysiadu cyfansoddiad ar 28 Mehefin 1996, daeth Wcráin yn weriniaeth lled-arlywyddol. Fodd bynnag, yn 2004, cyflwynodd y dirprwyon newidiadau i'r Cyfansoddiad, a oedd yn troi'r cydbwysedd pŵer o blaid system seneddol. Rhwng 2004 a 2010, cafodd cyfreithlondeb gwelliannau Cyfansoddiadol 2004 sancsiwn swyddogol, gyda Llys Cyfansoddiadol Wcráin, a'r mwyafrif o'r prif bleidiau gwleidyddol.[75] Er gwaethaf hyn, ar 30 Medi 2010 dyfarnodd y Llys Cyfansoddiadol fod y gwelliannau yn ddi-rym, gan orfodi dychwelyd i delerau Cyfansoddiad 1996 gan wneud system wleidyddol Wcráin yn fwy arlywyddol ei chymeriad.

Daeth y dyfarniad ar welliannau Cyfansoddiadol 2004 yn bwnc o bwys yn y byd gwleidyddol. Roedd llawer o'r pryder yn seiliedig ar y ffaith nad oedd Cyfansoddiad 1996 na Chyfansoddiad 2004 yn darparu'r gallu i "ddadwneud y Cyfansoddiad", fel y byddai gan benderfyniad y Llys Cyfansoddiadol, er y gellir dadlau bod gan gyfansoddiad 2004 restr o weithdrefnau posibl ar gyfer diwygiadau cyfansoddiadol (erthyglau 154–159). Beth bynnag, gellid addasu'r Cyfansoddiad presennol trwy bleidlais yn y Senedd.[75][76][77] [78]

Ar 21 Chwefror 2014 cafwyd cytundeb rhwng yr Arlywydd i ddychwelyd i Gyfansoddiad 2004. Dilynodd y cytundeb hanesyddol, a froceriwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, y protestiadau Euromaidan a ddechreuodd ddiwedd mis Tachwedd 2013 ac a ddaeth i ben gydag wythnos o wrthdaro treisgar lle lladdwyd ugeiniau o wrthdystwyr. Yn ogystal â dychwelyd i Gyfansoddiad 2004, roedd y fargen yn darparu ar gyfer ffurfio llywodraeth glymblaid, galw etholiadau cynnar, a rhyddhau’r cyn Brif Weinidog Yulia Tymoshenko o’r carchar.[79] Diwrnod ar ôl dod i'r cytundeb diswyddodd senedd Wcráin, Viktor Yanukovich, a gosod ei siaradwr Oleksandr Turchynov yn arlywydd dros dro[80] ac Arseniy Yatsenyuk fel Prif Weinidog Wcráin.[81]

Lluoedd arfogGolygu

 
Mae Henadii Lachkov, rheolwr mintai Wcrain yn yr Heddlu Aml-Genedlaethol - Irac, yn cusanu baner ei wlad

Ar ôl diddymu'r Undeb Sofietaidd, etifeddodd Wcráin lu milwrol 780,000 o ddynion gydag arsenal o arfau niwclear - y trydydd-fwyaf yn y byd.[82][83] Ym Mai 1992, llofnododd Wcráin Brotocol Lisbon lle cytunodd y wlad i ildio’r holl arfau niwclear i Rwsia i’w gwaredu ac ymuno â’r Cytundeb Ymlediad Niwclear Niwclear fel gwladwriaeth arfau nad yw’n niwclear. Cadarnhaodd Wcráin y cytundeb ym 1994, ac erbyn 1996 daeth y wlad yn gwbwl rydd o arfau niwclear.[82]

Cymerodd Wcráin gamau cyson tuag at leihau arfau confensiynol hefyd. Llofnododd y Cytundeb Lluoedd Arfog Confensiynol Ewrop, a oedd yn galw am leihau tanciau, magnelau a cherbydau arfog a gostyngwyd lluoedd y fyddin i 300,000. Mae'r wlad yn bwriadu trosi'r fyddin gyfredol sy'n seiliedig ar gonsgript yn llu filwrol gwirfoddol proffesiynol.[84]

Is-adrannau gweinyddolGolygu

Mae'r system o israniadau Wcráin yn adlewyrchu statws y wlad fel gwladwriaeth unedol (fel y nodwyd yng nghyfansoddiad y wlad) gyda chyfundrefnau cyfreithiol a gweinyddol unedig ar gyfer pob uned.

Gan gynnwys Sevastopol a Gweriniaeth Ymreolaethol y Crimea a atodwyd gan Ffederasiwn Rwsia yn 2014, mae Wcráin yn cynnwys 27 rhanbarth: pedwar oblast ar hugain (taleithiau), un weriniaeth ymreolaethol (Gweriniaeth Ymreolaethol y Crimea), a dwy ddinas o statws arbennig - Kiev, y brifddinas, a Sevastopol. Mae'r 24 oblast a Crimea wedi'u hisrannu'n 136 [85] raions (ardaloedd) a bwrdeistrefi dinesig o arwyddocâd rhanbarthol, neu unedau gweinyddol ail lefel.

Gwahaniaethau rhanbartholGolygu

Wcreineg yw'r brif iaith yng Ngorllewin Wcráin ac yng Nghanol Wcráin, tra mai Rwseg yw'r brif iaith yn ninasoedd Dwyrain Wcráin a De Wcráin. Yn ysgolion SSR Wcrain, roedd dysgu Rwsieg yn orfodol; ar hyn o bryd yn Wcráin fodern, mae ysgolion sydd â Wcreineg fel iaith addysgu yn cynnig dosbarthiadau mewn Rwseg ac yn yr ieithoedd lleiafrifol eraill.[86][87][88][89]

Yn ystod etholiadau mae pleidleiswyr oblasts (taleithiau) Gorllewin a Chanolbarth Wcráin yn pleidleisio'n bennaf dros bleidiau[90][91] ac ymgeiswyr arlywyddol gyda llwyfan diwygio pro-Orllewinol a gwladwriaethol, tra bod pleidleiswyr yn oblasts De a Dwyrain yn pleidleisio dros bleidiau ac ymgeiswyr arlywyddol gyda llwyfan pro-Rwsiaidd a thros gadw'r status quo.[92][93][94][95] Fodd bynnag, mae'r gwahaniaeth daearyddol hwn yn lleihau'n flynyddol.[96][97][98]

TrefoliGolygu

Fel trosolwg, mae gan Wcráin 457 o ddinasoedd, mae 176 ohonynt wedi'u labelu'n "oblast", 279 dinas "raion, a dwy ddinas statws cyfreithiol arbennig. Yna ceir 886 o drefi a 28,552 o bentrefi.[99]

DemograffegGolygu

Yn ôl Cyfrifiad Wcráin 2001, mae'r Wcreiniaid ethnig yn ffurfio 77.8% o'r boblogaeth. Grwpiau mawr eraill ydy'r Rwsiaid (17.3%), Belarwsiaid (0.6%), Moldofiaid (0.5%), Tatariaid Crimea (0.5%), Bwlgariaid (0.4%), Hwngariaid (0.3%), Rwmaniaid (0.3%), Pwyliaid (0.3%), Iddewon (0.2%), Armeniaid (0.2%), Groegwyr (0.2%) a'r Tatariad eraill (0.2%). Poblogaeth wrban sy gan Wcráin gyda 67.2% yn byw mewn trefi.

Ers degawd a mwy mae argyfwng demograffaidd yn y wlad gyda mwy yn marw na'r genedigaethau. Genedigaethau 9.55 /1,000 poblogaeth, Marwolaethau 15.93 /1,000 poblogaeth. Mae lefel iechyd isel yn y wlad yn cyfrannu at hyn ac yn 2007 roedd y boblogaeth yn gostwng ar y pedwerydd gyflymdra yn y byd.

Telir 12,250 hryvnia (tua £120) am y plentyn cyntaf, 25,000 hryvnia (tua £250) am yr ail a 50,000 hryvnia (tua £500) am y trydydd a phedwerydd. Dim ond mewn chwarter o'r ardaloedd mae cynnydd poblogaeth - i gyd yng ngorllewin y wlad. Rhwng 1991 a 2004, symudodd tua 3.3 miliwn i mewn i Wcráin (o'r Undeb Sofietaidd) ac aeth 2.5 miliwn allan - y rhan fwyaf i'r Undeb Sofietaidd. Yn 2006, roedd tua 1.2 million Canadiaid o dras Wcreiniaid yn arbennig yng ngorllewin Canada.

AddysgGolygu

 
Y diwrnod olaf yn ysgol 47 yn Donetsk.

Yn ôl cyfansoddiad Wcráin, rhoddir mynediad i addysg am ddim i bob dinesydd. Mae addysg uwchradd gyffredinol gyflawn yn orfodol yn ysgolion y wladwriaeth sy'n ffurfio'r mwyafrif llethol. Darperir addysg uwch am ddim mewn sefydliadau addysgol gwladol a chymunedol ar sail gystadleuol.[100] Mae yna hefyd nifer fach o sefydliadau addysg uwchradd ac uwch preifat achrededig.

Oherwydd pwyslais yr Undeb Sofietaidd ar fynediad rhydd ac am ddim o fewn y system addysg - i bob dinesydd, amcangyfrifir bod y gyfradd llythrennedd yn 99.4%.[19]"Ukraine". CIA World Factbook. 13 December 2007. Cyrchwyd 24 December 2007.</ref> Ers 2005, disodlwyd rhaglen ysgol 11-mlynedd gydag un 12-mlynedd: mae addysg gynradd yn cymryd pedair blynedd i'w chwblhau, gan ddechrau yn chwech oed, ac mae addysg ganol (uwchradd) yn cymryd pum mlynedd i'w chwblhau; yna mae'r uwchradd uchaf yn cymryd tair blynedd.[101] Yn y 12fed blwyddyn o addysg, mae'r myfyrwyr yn sefyll profion canolog, y cyfeirir atynt hefyd fel arholiadau gadael ysgol. Defnyddir y profion hyn yn ddiweddarach ar gyfer derbyniadau i brifysgol.

EconomiGolygu

 
Kiev, canolfan ariannol y wlad

Mae gan Wcráin economi incwm canolig-is, sef y 55fed economi fwyaf yn y byd yn ôl cynnyrch mewnwladol crynswth / CMC enwol, a'r 40fed-fwyaf gan PPP. Mae'n un o allforwyr grawn mwyaf y byd,[102][103] ac weithiau fe'i gelwir yn "Fasged Bara Ewrop".[104] Fodd bynnag, y wlad yw' un o'r gwledydd tlotaf yn Ewrop ac mae hefyd ymhlith y rhai mwyaf llygredig yn y cyfandir.[105][106]

Yn 2019, cyrhaeddodd y cyflog enwol ar gyfartaledd yn Wcrain € 300 y mis,[107] tra yn 2018, cyfoeth canolrifol Wcráin fesul oedolyn oedd $40, un o'r isaf yn y byd. Roedd tua 1.1% o Iwcraniaid yn byw o dan y llinell dlodi genedlaethol yn 2019,[108] ac roedd diweithdra yn y wlad yn 4.5% yn 2019,[109] tra bod tua 5-15% o boblogaeth Wcrain yn cael eu categoreiddio fel dosbarth canol.[110] Mae dyled llywodraeth Wcráin oddeutu 52% o'i CMC enwol.[111]

Cynhyrcha Wcráin bron pob math o gerbydau cludo a llongau gofod. Allforir awyrennau Antonov a thryciau KrAZ i lawer o wledydd. Mae'r mwyafrif o allforion Wcrain yn cael eu marchnata i'r Undeb Ewropeaidd a'r Gymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol (CIS).[112] Ers annibyniaeth, mae Wcráin wedi cynnal ei asiantaeth ofod ei hun, Asiantaeth Ofod y Wladwriaeth Wcráin (SSAU). Daeth yn gyfranogwr gweithredol mewn archwilio gofod a synhwyro o bell. Rhwng 1991 a 2007, mae Wcráin wedi lansio chwe lloeren a wnaed ganddynt a 101 o gerbydau lansio.[113][114][115]

Mae Wcráin yn cynhyrchu ac yn prosesu ei nwy naturiol a'i betroliwm ei hun. Fodd bynnag, mae'r wlad yn mewnforio'r rhan fwyaf o'i chyflenwadau ynni, ac mae 80% o gyflenwadau nwy naturiol yn cael eu mewnforio'nn bennaf o Rwsia.[116]

Cynhyrchu pŵerGolygu

 
Gorsaf niwclear Zaporizhzhia, yr atomfa niwclear fwyaf yn Ewrop

Mae Wcráin wedi bod yn wlad allforio ynni net, er enghraifft yn 2011, allforiwyd 3.3% o'r trydan a gynhyrchwyd,[117] ond hefyd yn un o ddefnyddwyr ynni mwyaf Ewrop.[118] As of 2011 , Roedd 47.6% o gyfanswm y trydan a gynhyrchwyd yn dod o ynni niwclear[117] Mae'r gwaith pŵer niwclear mwyaf yn Ewrop, Gwaith Pŵer Niwclear Zaporizhzhia, wedi'i leoli yn Wcrain. Hyd at y 2010au, roedd holl danwydd niwclear (Wraniwm ayb) Wcráin yn dod o Rwsia. Yn 2008 enillodd Westinghouse Electric Company gontract pum mlynedd yn gwerthu tanwydd niwclear i dri adweithydd Wcráinaidd, gan ddechrau yn 2011.[119][120]

Gorsafoedd pŵer thermol glo a nwy a trydan dŵr yw'r ail a'r trydydd math mwyaf o gynhyrchu pŵer yn y wlad. 

TwristiaethGolygu

Yn 2007 Wcráin oedd yr 8fed safle yn Ewrop yn ôl nifer y twristiaid a ymwelodd, yn ôl safleoedd Sefydliad Twristiaeth y Byd.[121] Ceir nifer o atyniadau i dwristiaid: mynyddoedd sy'n addas ar gyfer sgïo, heicio a physgota: arfordir y Môr Du fel cyrchfan boblogaidd yn yr haf; gwarchodfeydd natur gwahanol ecosystemau; eglwysi, adfeilion cestyll a thirnodau pensaernïol a pharciau eraill. Kiev, Lviv, Odessa a Kamyanets-Podilskyi yw prif ganolfannau twristiaeth Wcráin. Arferai twristiaeth fod yn brif gynheiliad economi'r Crimea ond bu cwymp mawr yn nifer yr ymwelwyr wedi 2014.[122]

Saith Rhyfeddod Wcráin a Saith Rhyfeddod Naturiol Wcráin yw'r mannau mwyaf poblogaidd yn Wcráin.

DiwylliantGolygu

 
Casgliad o wyau Pasg Wcreineg traddodiadol - pysanky. Mae'r motiffau dylunio ar pysanky yn dyddio'n ôl i ddiwylliannau Slafaidd cynnar.
 
Rushnyk, brodwaith Wcrain

Mae Cristnogaeth Uniongred, y brif grefydd yn y wlad, yn dylanwadu'n drwm ar arferion Wcráin.[123] Mae rolau rhyw hefyd yn tueddu i fod yn fwy traddodiadol, ac mae neiniau a theidiau'n chwarae mwy o ran wrth fagu plant, nag yn y Gorllewin.[124]  Mae diwylliant Wcráin hefyd wedi cael ei ddylanwadu gan ei gymdogion dwyreiniol a gorllewinol, a adlewyrchir yn ei phensaernïaeth, ei cherddoriaeth a'i chelf.[125] 

Cafodd yr oes Gomiwnyddol ddylanwad eithaf cryf ar gelf a llenyddiaeth Wcráin.[126] Ym 1932, gwnaeth Stalin bolisi gwladwriaethol "realaeth sosialaidd" o fewn yr Undeb Sofietaidd. Roedd hyn yn mygu creadigrwydd a gwahniaeth barn yn fawr. Yn ystod yr 1980au cyflwynwyd glasnost (didwylledd) a daeth artistiaid ac ysgrifenwyr Sofietaidd yn rhydd unwaith eto i fynegi eu barn eu hunain.[127]

CyfeiriadauGolygu

  1. http://database.ukrcensus.gov.ua/PXWEB2007/ukr/publ_new1/2021/zb_chuselnist%202021.pdf.
  2. Chin, Richard (2011). Global Clinical Trials. Elsevier. t. 345. ISBN 0-12-381537-1.
  3. Evans, Chandler (2008). Future of Google Earth. BookSurge. t. 174. ISBN 1-4196-8903-7.
  4. "Basic facts about Ukraine". Ukrainian consul in NY. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-11-30. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2010.
  5. Gray, Richard (18 Rhagfyr 2011). "Neanderthals built homes with mammoth bones". Daily Telegraph. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-08. Cyrchwyd 8 Ionawr 2014.
  6. Matossian Shaping World History tud. 43
  7. "What We Theorize – When and Where Did Domestication Occur". International Museum of the Horse. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2010.
  8. 8.0 8.1 "Horsey-aeology, Binary Black Holes, Tracking Red Tides, Fish Re-evolution, Walk Like a Man, Fact or Fiction". Quirks and Quarks Podcast with Bob Macdonald. CBC Radio. 7 Mawrth 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Hydref 2014. Cyrchwyd 18 Medi 2010.
  9. "cbc.ca Quirks". cbc. 2009.
  10. "Ukraine becomes world's third biggest grain exporter in 2011 – minister" (Press release). Black Sea Grain. 20 Ionawr 2012. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2013-12-31. https://web.archive.org/web/20131231235707/http://www.blackseagrain.net/data/news/ukraine-becomes-worlds-third-biggest-grain-exporter-in-2011-minister. Adalwyd 31 Rhagfyr 2013.
  11. "World Trade Report 2013". World Trade Organisation. Cyrchwyd 2014-01-26.
  12. "Linguistic divides: Johnson: Is there a single Ukraine?". The Economist. 5 Chwefror 2014. Cyrchwyd 12 Mai 2014.
  13. Hryhoriy Pivtorak. [The origin of Ukrainians, Russians, Belarusians and their languages] |trans-title= requires |title= (help) (yn Wcreineg) http://litopys.org.ua/pivtorak/pivtorak.htm |url= missing title (help). Cyrchwyd 21 Hydref 2015.
  14. "Ukraine – Definition". Merriam-Webster Online Dictionary. Cyrchwyd 4 Mai 2012.
  15. "The "the" is gone". The Ukrainian Weekly. 8 December 1991. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Hydref 2017. Cyrchwyd 21 Hydref 2015.
  16. Adam Taylor (9 December 2013). "Why Ukraine Isn't 'The Ukraine,' And Why That Matters Now". Business Insider. Cyrchwyd 21 Hydref 2015.
  17. "'Ukraine' or 'the Ukraine'? It's more controversial than you think". Washington Post. 25 Mawrth 2014. Cyrchwyd 11 Awst 2016.
  18. Geoghegan, Tom (7 Mehefin 2012), "Ukraine or the Ukraine: Why do some country names have 'the'?", BBC News Magazine (BBC), https://www.bbc.co.uk/news/magazine-18233844
  19. 19.0 19.1 "Ukraine". CIA World Factbook. 13 December 2007. Cyrchwyd 24 December 2007.
  20. Oksana Grytsenko (9 December 2011). "Environment suffers from lack of recycling". Kyiv Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Ionawr 2012.
  21. "Ukraine". Country Pasture/Forage Resource Profiles. Food and Agriculture Organization. Cyrchwyd 8 Awst 2016.
  22. 22.0 22.1 22.2 22.3 "Ukraine – Climate". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 20 Hydref 2015.
  23. Clark, Ross (28 Hydref 2006). "The wetter, the better". The Independent. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ionawr 2012. Cyrchwyd 2 Medi 2009.
  24. Dinerstein, Eric; Olson, David; Joshi, Anup; Vynne, Carly; Burgess, Neil D.; Wikramanayake, Eric; Hahn, Nathan; Palminteri, Suzanne et al. (2017). "An Ecoregion-Based Approach to Protecting Half the Terrestrial Realm". BioScience 67 (6): 534–545. doi:10.1093/biosci/bix014. ISSN 0006-3568. PMC 5451287. PMID 28608869. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5451287.
  25. Richard Gray (18 December 2011). "Neanderthals built homes with mammoth bones". Daily Telegraph. London. Cyrchwyd 8 Ionawr 2014.
  26. K. Kris Hirst. "Molodova I and V (Ukraine)". About.
  27. "Mystery of the domestication of the horse solved: Competing theories reconciled". sciencedaily (sourced from the University of Cambridge). 7 Mai 2012. Cyrchwyd 12 Mehefin 2014.
  28. Matossian Shaping World History p. 43
  29. "What We Theorize – When and Where Did Domestication Occur". International Museum of the Horse. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd 12 December 2010.
  30. Sandrine Prat; Stéphane C. Péan; Laurent Crépin; Dorothée G. Drucker; Simon J. Puaud; Hélène Valladas; Martina Lázničková-Galetová; Johannes van der Plicht; Alexander Yanevich (17 Mehefin 2011). "The Oldest Anatomically Modern Humans from Far Southeast Europe: Direct Dating, Culture and Behavior". plosone. doi:10.1371/journal.pone.0020834.
  31. Jennifer Carpenter (20 Mehefin 2011). "Early human fossils unearthed in Ukraine". BBC. Cyrchwyd 21 Mehefin 2011.
  32. "Scythian". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 21 Hydref 2015.
  33. "Khazar | Origin, History, Religion, & Facts". Encyclopedia Britannica.
  34. Magocsi, Paul Robert (16 Gorffennaf 1996). A History of Ukraine. University of Toronto Press. ISBN 9780802078209. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2018.
  35. Petro Tolochko. The Kyivan Rus, establishment and development of the state nucleus (КИЇВСЬКА РУСЬ, СТАНОВЛЕННЯ ТА РОЗВИТОК ЯДРА ДЕРЖАВИ). Encyclopedia of History of Ukraine. 2007
  36. Belyayev, A. Rus and Varangians. Eurasian historical perspective (Русь и варяги. Евразийский исторический взгляд). Lev Gumilev Center. 13 Medi 2012
  37. A Geography of Russia and Its Neighbors ISBN 978-1-606-23920-9 p. 69
  38. Wilson, p. 17
  39. Subtelny, p. 487
  40. Roberts, p. 102
  41. Boshyk, p. 89
  42. 42.0 42.1 "World wars". Encyclopedia of Ukraine. Cyrchwyd 20 December 2007.
  43. Subtelny, Orest (1988). "Ukraine: A History.". p 410
  44. Vedeneyev, D. Military Field Gendarmerie - special body of the Ukrainian Insurgent Army. "Voyenna Istoriya" magazine. 2002.
  45. Timothy Snyder. A fascist hero in democratic Kiev. New York Review of Books. 24 Chwefror 2010
  46. Snyder, Timothy (2003). "The Causes of Ukrainian-Polish Ethnic Cleansing 1943". Past & Present 179 (179): 197–234. doi:10.1093/past/179.1.197. ISSN 0031-2746. JSTOR 3600827. https://www.jstor.org/stable/3600827.
  47. Piotrowski pp. 352–354
  48. Weiner pp. 127–237
  49. "Losses of the Ukrainian Nation, p. 2". Peremoga.gov.ua (yn Wcreineg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mai 2005. Cyrchwyd 16 December 2007.
  50. Subtelny, p. 476
  51. Magocsi, p. 635
  52. "Ukrainian Insurgent Army". Encyclopedia of Ukraine. Cyrchwyd 20 December 2007.
  53. "Ukraine: World War II and its aftermath". Encyclopædia Britannica (fee required). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Medi 2007. Cyrchwyd 12 Medi 2007.
  54. Stanislav Kulchytskyi (1 Hydref 2004). "Демографічні втрати України в хх столітті" [Demographic losses of Ukraine in the 20 century] (yn Wcreineg). Dzerkalo Tyzhnia. Cyrchwyd 20 Ionawr 2021.
  55. "Activities of the Member States – Ukraine". United Nations. Cyrchwyd 17 Ionawr 2011.
  56. "United Nations". U.S. Department of State. Cyrchwyd 22 Medi 2014. Voting procedures and the veto power of permanent members of the Security Council were finalized at the Yalta Conference in 1945 when Roosevelt and Stalin agreed that the veto would not prevent discussions by the Security Council. Roosevelt agreed to General Assembly membership for Ukraine and Byelorussia while reserving the right, which was never exercised, to seek two more votes for the United States.
  57. "Ukraine – The last years of Stalin's rule". Encyclopædia Britannica (fee required). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Ionawr 2008. Cyrchwyd 28 December 2007.
  58. Magocsi, p. 644
  59. Remy, Johannes (1996). "'Sombre anniversary' of worst nuclear disaster in history – Chernobyl: 10th anniversary". UN Chronicle. Find articles. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Mehefin 2012. Cyrchwyd 16 December 2007.
  60. "Fukushima, Chernobyl and the Nuclear Event Scale". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Hydref 2017.
  61. "Geographical location and extent of radioactive contamination". Chernobyl.info. Swiss Agency for Development and Cooperation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mehefin 2007. Cyrchwyd 8 Ionawr 2014.
  62. Subtelny, Orest (2000). Ukraine: A History. University of Toronto Press. t. 576. ISBN 0-8020-8390-0.
  63. "Declaration of State Sovereignty of Ukraine". Verkhovna Rada of Ukraine. 16 Gorffennaf 1990. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Medi 2007. Cyrchwyd 12 Medi 2007.
  64. Про розгляд вимог студентів, які проводять голодування … | від 17.10.1990 № 402-XII
  65. "Verkhovna Rada of Ukraine Resolution On Declaration of Independence of Ukraine". Verkhovna Rada of Ukraine. 24 Awst 1991. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Medi 2007. Cyrchwyd 12 Medi 2007.
  66. "The Supreme Court findings" (yn Wcreineg). Supreme Court of Ukraine. 3 December 2004. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2008.
  67. "Yushchenko: 'Live And Carry On'". CBS News. 30 Ionawr 2005.
  68. "Associated Press: Study: Dioxin that poisoned Yushchenko made in lab".
  69. "Yushchenko to Russia: Hand over witnesses". Kyiv Post. 28 Hydref 2009. Cyrchwyd 11 Chwefror 2010.
  70. "Ukraine-Independent Ukraine". Encyclopædia Britannica (fee required). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Ionawr 2008. Cyrchwyd 14 Ionawr 2008.
  71. Paul J. D'Anieri (2007). Understanding Ukrainian Politics: Power, Politics, and Institutional Design. M.E. Sharpe. t. 63. ISBN 978-0-7656-1811-5.
  72. EU endorses Ukraine election result, euobserver (8 Chwefror 2010)
  73. International observers say Ukrainian election was free and fair, Washington Post (9 Chwefror 2010)
  74. European Parliament president greets Ukraine on conducting free and fair presidential election, Kyiv Post (9 Chwefror 2010)
  75. 75.0 75.1 Віталій Портников. "Vitaly Portnykov. "Comment on the Constitutional Court of Ukraine on elimination of political reform in 2004 for Radio Liberty asked Nicholas Onischuk, former Justice Minister ... 25 February 2008 the Constitutional Court came to the conclusion that this bill can not be subject to constitutional control, but now we see that the Constitutional Court concluded that it can". 1 October 2010". Radiosvoboda.org. Cyrchwyd 31 Hydref 2011.
  76. "Yulia Tymoshenko: Hydref 1 marks the end of Ukraine's democracy and beginning of dictatorship". Tymoshenko.ua. 1 Hydref 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Hydref 2011. Cyrchwyd 31 Hydref 2011.
  77. Hrabovsky, Serhiy (1 Hydref 2010). (yn Wcreineg). radiosvoboda.org http://www.radiosvoboda.org/content/article/2174129.html. Cyrchwyd 6 April 2016. (Translation) These words handed down on the decision of the Constitutional Court of Ukraine (CCU) regarding cancelling the political reforms of 2004 are worthy of being inscribed in the annals of world jurisprudence. It turns out that "the stability of the constitutional order" will not be changed by the will of the voters, or even by Parliament, but by the decision of 18 persons. Unknown parameter |TransTitle= ignored (|trans-title= suggested) (help); Missing or empty |title= (help)
  78. "Що означає скасування політреформи 2004 року?". Радіо Свобода (yn Wcreineg). Cyrchwyd 2022-02-28.
  79. "President Yanukovych and Ukraine opposition sign early poll deal". europesun.com. 21 Chwefror 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Chwefror 2014.
  80. "Ukraine: Speaker Oleksandr Turchynov named interim president". BBC News. Kyiv. 23 Chwefror 2014. Cyrchwyd 6 April 2016.
  81. Salem, Harriet (4 Mawrth 2014). "Who exactly is governing Ukraine?". The Guardian. Cyrchwyd 6 April 2016.
  82. 82.0 82.1 "The history of the Armed Forces of Ukraine". Ministry of Defence of Ukraine. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2008.
  83. "Ukraine Special Weapons". GlobalSecurity.org. Cyrchwyd 24 December 2007.
  84. "White Book 2006" (PDF). Ministry of Defence of Ukraine. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 8 Tachwedd 2007. Cyrchwyd 24 December 2007.
  85. "The council reduced the number of districts in Ukraine: 136 instead of 490". Ukrainska Pravda (yn Wcreineg). 17 Gorffennaf 2020.
  86. The Educational System of Ukraine, National Academic Recognition Information Centre, April 2009, http://norric.org/files/education-systems/Ukraine2009, adalwyd 7 Mawrth 2013
  87. "The language question, the results of recent research in 2012". Rating. 25 Mai 2012.
  88. "Poll: Ukrainian language prevails at home", Ukrinform (UA), 7 Medi 2011, http://www.ukrinform.net/rubric-ukrnews/1243560-poll_ukrainian_language_prevails_at_home_229692.html, adalwyd 7 Ionawr 2019
  89. Taras Kuzio (23 Awst 2011). "Soviet conspiracy theories and political culture in Ukraine: Understanding Viktor Yanukovych and the Party of Region" (PDF). taraskuzio.net. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 16 Mai 2014.
  90. [The Elections of People's Deputies of Ukraine 2012] |trans-title= requires |title= (help) (yn Wcreineg). Central Election Commission of Ukraine. 28 Tachwedd 2012 https://web.archive.org/web/20121016140034/http://www.cvk.gov.ua/pls/vnd2012/WP406?PT001F01=900&pf7171=52 |archiveurl= missing title (help). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Hydref 2012. Cyrchwyd 8 Mawrth 2013.
  91. "CEC substitutes Tymoshenko, Lutsenko in voting papers". 30 Awst 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Awst 2014. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2015.
  92. Backes, Uwe; Moreau, Patrick (2008), Communist and Post-Communist Parties in Europe, Vandenhoeck & Ruprecht, p. 396, ISBN 978-3-525-36912-8, https://books.google.com/books?id=H23Pv4Ik3vMC&pg=PA396
  93. Ukraine right-wing politics: is the genie out of the bottle?, openDemocracy.net, 3 Ionawr 2011, http://www.opendemocracy.net/od-russia/andreas-umland/ukraine-right-wing-politics-is-genie-out-of-bottle
  94. Kuzio, Taras (17 Hydref 2012), Eight Reasons Why Ukraine's Party of Regions Will Win the 2012 Elections, The Jamestown Foundation, http://www.jamestown.org/single/?no_cache=1&tx_ttnews%5Btt_news%5D=39981
  95. Kuzio, Taras (5 Hydref 2007), UKRAINE: Yushchenko needs Tymoshenko as ally again, Oxford Analytica, http://www.taraskuzio.net/media20_files/8.pdf
  96. "Election winner lacks strong voter mandate". Kyiv Post. 11 Chwefror 2010.
  97. "Ukraine's Party of Regions: A pyrrhic victory". EurActiv – EU News & policy debates, across languages.
  98. "Ukraine vote ushers in new constellation of power". DW.DE.
  99. "Regions of Ukraine and their divisions". Verkhovna Rada of Ukraine Official Web-site (yn Wcreineg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 December 2007. Cyrchwyd 24 December 2007.
  100. "Constitution of Ukraine, Chapter 2, Article 53. Adopted at the Fifth Session of the Verkhovna Rada of Ukraine on 28 June 1996". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 April 1997.
  101. "General secondary education". Ministry of Education and Science of Ukraine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Hydref 2007. Cyrchwyd 23 December 2007.
  102. "Ukraine becomes world's third biggest grain exporter in 2011 – minister" (Press release). Black Sea Grain. 20 Ionawr 2012. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2013-12-31. https://web.archive.org/web/20131231235707/http://www.blackseagrain.net/data/news/ukraine-becomes-worlds-third-biggest-grain-exporter-in-2011-minister. Adalwyd 31 December 2013.
  103. "World Trade Report 2013". World Trade Organization. 2013. Cyrchwyd 26 Ionawr 2014.
  104. "Ukraine: The breadbasket of Europe". Emerging Europe. 13 Ionawr 2021. Cyrchwyd 17 April 2021.
  105. "Next to Kyrgyzstan and Djibouti — Ukraine's Results in Corruption Perceptions Index 2019". Transparency International. 23 Ionawr 2020. Cyrchwyd 18 Chwefror 2020.
  106. Bohdan Ben (25 Medi 2020). "Why Is Ukraine Poor? Look To The Culture Of Poverty". VoxUkraine. Cyrchwyd 4 Mawrth 2021.
  107. "Average Wage Income in 2008 by Region". State Statistics Committee of Ukraine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Mai 2012. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2008.
  108. "Poverty headcount ratio at national poverty lines (% of population) – Ukraine | Data". data.worldbank.org. Cyrchwyd 17 April 2021.
  109. "Unemployment, total (% of total labor force) (national estimate) – Ukraine | Data". data.worldbank.org. Cyrchwyd 17 April 2021.
  110. Lyubomyr Shavalyuk (10 Hydref 2019). "Where Ukraine's middle class is and how it can develop". The Ukrainian Week. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2020.
  111. "Ukraine Government Debt: % of GDP". CEIC. Cyrchwyd 17 April 2021.
  112. "Structure export and import, 2006". State Statistics Committee of Ukraine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Mehefin 2012. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2008.
  113. "Statistics of Launches of Ukrainian LV". www.nkau.gov.ua. State Space Agency of Ukraine. Cyrchwyd 24 December 2007.
  114. "Missile defence, NATO: Ukraine's tough call". Business Ukraine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Tachwedd 2008. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2008.
  115. "Ukraine Special Weapons". The Nuclear Information Project. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2008.
  116. Axel Siedenberg; Lutz Hoffmann (1999). Ukraine at the Crossroads: Economic Reforms in International Perspective. Springer Science & Business Media. t. 393. ISBN 978-3-7908-1189-6.
  117. 117.0 117.1 "Міністерство енергетики та вугільної промисловості України :: Інформаційна довідка про основні показники розвитку галузей паливно-енергетичного комплексу України за грудень та 2011 рік". mpe.kmu.gov.ua.
  118. "Ukraine". Energy Information Administration (EIA). US government. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mawrth 2014. Cyrchwyd 22 December 2007.
  119. "Westinghouse Wins Contract to Provide Fuel Supplies to Ukraine". 30 Mawrth 2008. Westinghouse Electric. Archifwyd o'r gwreiddiol (press release) ar 19 Mehefin 2015. Cyrchwyd 15 April 2014.
  120. "Westinghouse and Ukraine's Energoatom Extend Long-term Nuclear Fuel Contract". 11 April 2014. Westinghouse. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 April 2014. Cyrchwyd 15 April 2014.
  121. UNWTO World Tourism Barometer, volume 6, UNWTO (June 2008)
  122. Tourism takes a nosedive in Crimea bbc.co.uk, accessed 29 December 2015
  123. "State Department of Ukraine on Religious". 2003 Statistical report. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 December 2004. Cyrchwyd 27 Ionawr 2008.
  124. Lysenko, Tatiana (2014). The Price of Freedom. Lulu Publishing Services. t. 4. ISBN 978-1483405759.
  125. "Culture in Ukraine | By Ukraine Channel". ukraine.com. Cyrchwyd 24 Mawrth 2018.
  126. "Interwar Soviet Ukraine". Encyclopædia Britannica. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 April 2008. Cyrchwyd 12 Medi 2007. In all, some four-fifths of the Ukrainian cultural elite was repressed or perished in the course of the 1930s
  127. "Gorbachev, Mikhail". Encyclopædia Britannica (fee required). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 December 2007. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2008. Under his new policy of glasnost ("openness"), a major cultural thaw took place: freedoms of expression and of information were significantly expanded; the press and broadcasting were allowed unprecedented candour in their reportage and criticism; and the country's legacy of Stalinist totalitarian rule was eventually completely repudiated by the government

Dolennau allanolGolygu

Llywodraeth