Ceir tua hanner dwsin o garolau haf neu garolau i'r gwanwyn a’r haf yn y Gymraeg ond yn anaml iawn y'u clywir. Pur anaml fyddai'r alawon yn hollol wreiddiol; mabwysiadwyd ac addaswyd caneuon poblogaidd y dydd neu alawon gwerin addas.

Canu haf yng Nŵyl Werin Tegeingl; 19/8/2012

Enghreifftiau golygu

Prin ydy'r enghreifftiau sydd wedi goroesi; efallai mai'r enwocaf ohonyn nhw ydy "Mae'r Ddaear yn Glasu" gan John Howel (1774-1830) a'r alaw wedi ei nodi gan John Owen o Ddwyran Sir Fôn[1] o ganu Robert (Robyn) Hughes y Crydd o Rhengc Fawr, Dwyran, Sir Fôn:

Mae'r ddaear yn glasu a'r coed sydd yn tyfu
A gwyrddion yw'r gerddi mae'r llwyni mor llon
A heirdd yw'r egine a'r dail ar y dole
A blode'r perllanne pur llawnion.
Os bu yn ddiweddar wedd ddu ar y ddaear
Cydganodd yr adar yn gerddgar i gyd
Gweld coedydd yn deilio a wnâi iddynt byncio
Cydseinio drwy'n hoywfro draw'n hyfryd.
Mae'r ddaear fawr ffrwythlon a'i thrysor yn ddigon
I borthi'i thrigolion yn dirion bob dydd
Pe byddem ni ddynion mewn cyflwr heddychlon
Yn caru'n un galon ein gilydd

Esiamplau eraill o garolau haf:

Mwynen Mai
Mwynen Meirion

Plygain haf golygu

Mewn ymgais i boblogeiddio carolau haf, yn 2010 fe grëwyd "Plygain Haf" yng Ngŵyl Werin Tegeingl ac roedd yn boblogaidd iawn. Yn 2012 cynhaliwyd cystadleuaeth i feirdd sgwennu carol haf newydd.[2]

Nodweddion y garol haf golygu

  • gosodiad ar gyfer tri llais ydyn nhw fel arfer e.e. tenor, alaw a bas
  • mae ynddynt ddiwinyddiaeth gref (cysylltiad, efallai, gyda'r duwiau Celtaidd)
  • defnydd helaeth o'r cynganeddion, e.e. A gwyrddion yw'r gerddi
  • mae nhw'n ganadwy iawn

•mae nhw'n cael eu canu'n ddigyfeiliant fel arfer, er nad yw cyfeiliant telyn neu ffidil yn anghyffredin a byddai cerdd dantio neu ganu pen pastwn yn dderbyniol hefyd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan www.canugwerin.com; adalwyd 26.07.2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2012-07-26.
  2. Gwefan Gŵyl Werin Tegeingl; adalwyd 11/07/2012[dolen marw]