Canu gwerin
Defnyddir y term canu gwerin fel arfer i olygu cân draddodiadol sy'n perthyn i'r gymuned gyfan, ac nid i arbenigwyr cerddorol, ac a drosglwyddwyd ar lafar yn aml tan yr 20g. Yn aml does neb yn gwybod pwy yw awdur neu gyfansoddwr y gân. Mae canu gwerin yn rhan bwysig o ddiwylliant gwerin sawl gwlad, yn cynnwys Cymru. Gellir dosrannu canu gwerin i ganu gwerin traddodiadol ac i ganu gwerin modern neu'n ganeuon lleisiol ac offerynnol. Gellir ystyried canu baledi neu garolau Plygain yn fath o ganu gwerin. Mae cryn gwahaniaeth rhwng canu gwerin a chanu gwlad, sydd fel arfer yn tarddu o America.
Enghraifft o'r canlynol | genre gerddorol |
---|---|
Math | Canu gwerin |
Rhan o | traddodiad cerddorol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhelir sawl gŵyl gerddorol sy'n canolbwyntio ar ganu gwerin. Un o'r enwocaf yw Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, sy'n denu perfformwyr o sawl rhan o'r byd.
Canu gwerin Cymraeg
golygu- Prif: Canu gwerin Cymraeg
Mae Meredydd Evans, Elfed Lewys, Arfon Gwilym a Lynda Healey yn gantorion gwerin traddodiadol ac mae Ar Lôg a Calan yn grwpiau gwerin traddodiadol. Cafwyd tipyn o adfywiad yn y maes hwn yn y 1970au a'r 1980au; ymhlith y grwpiau gwerin yr oedd: Clochan, Cilmeri, Plethyn, 4 yn y Bâr, Bwchadanas a'r Hwntws.
Recordiwyd llawer iawn o hen ganeuon gan Roy Saer o Sain Ffagan ers 1963 e.e. Cân y Cythreiniwr a gellir clywed rhagor ohonynt ar wefan yr Amgueddfa.[1]
Sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1906. Mae'r Gymdeithas yn cyhoeddi cylchgrawn, Canu Gwerin, ac yn cynnal darlithiau a chynadleddau yn rheolaidd.[2] Sefydlwyd prosiect i gofnodi a hyrwyddo cerddoriaeth werin draddodiadol, sef Pan Cymru yn Hydref 2012.[3]
Gweler hefyd Wefan Baledi Cymru [1] Archifwyd 2007-09-11 yn y Peiriant Wayback
Gweler hefyd
golygu- Cân y Cythreiniwr, enghraifft o gân werin Cymreig
- Cerdd Dant
- Hen Benillion
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Caneuon Gwerin ar wefan yr Amgueddfa Werin[dolen farw]
- ↑ Gwefan Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru
- ↑ Gwefan Pan Cymru; adalwyd 10 Awst 2013.