Caroline Phillips

Ffeminist a swffragét o'r Alban oedd Caroline Phillips (1874 - 13 Ionawr 1956) a oedd yn newyddiadurwr, yn rheolwr gwesty ac yn ymgyrchydd dros hawliau merched. Bu'n Ysgrifennydd Anrhydeddus i gangen Aberdeen o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (Social and Political Union, neu'r WSPU), ac yn drefnydd nifer o ymgyrchoedd milwriaethus yn Aberdeen.

Caroline Phillips
Ganwyd1874 Edit this on Wikidata
Kintore Edit this on Wikidata
Bu farw13 Ionawr 1956 Edit this on Wikidata
Kintore Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Alban Yr Alban
Galwedigaethnewyddiadurwr, swffragét, rheolwr gwesty Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Kintore yn 1874, lle bu hefyd farw, ac fe'i claddwyd yn Kintore.

Y dyddiau cynnar golygu

Gweithiodd Caroline Phillips i'r Aberdeen Daily Journal, y mwyaf ceidwadol o'r ddau bapur dyddiol yn Aberdeen, ar yr adeg honno. Yn y cyfnod hwn, dim ond 66 o newyddiadurwyr benywaidd oedd drwy wledydd Prydain gyfan.[1][2]

Cafodd ei lleoli mewn swyddfa yn Broad Street, Aberdeen, adeilad a ddaeth yn swyddfeydd i'r Evening Express yn ddiweddarach. Roedd ei hymroddiad i'r ymgyrch dros bleidlais menywod (neu etholfraint) yn golygu ei bod yn aml yn glanio ei hun mewn trafferth gyda'i chyflogwr.

Pan gafodd ei gwahardd rhag mynychu cyfarfodydd gwleidyddol, roedd hyn yn ei gwneud yn anodd iawn iddi gyflawni ei swydd fel newyddiadurwr. Eto i gyd, nid oedd y gwrthdaro hwn â'r papur newydd yn ei hatal rhag arwain y frwydr dros bleidlais menywod yn Aberdeen a'r cyffiniau, ac aeth ati cyn gryfed a chynt yn ei hymdrechion.[3]

Yr ymgyrchydd chwyrn golygu

Credai mewn defnyddio dulliau gwleidyddol i gyflawni pleidleisiau i fenywod, tra bod y rhan fwyaf o swffragetiaid eraill yn cyflogi'r syniad o “weithredoedd nid geiriau”. Byddai rhai, felly, yn ei galw'n "suffragist" yn hytrach nag yn "suffragette". er enghraifft, yn Rhagfyr 1907, pan oedd Emmeline Pankhurst yn bwriadu tarfu ar Ganghellor y Trysorlys ar y pryd sef Henry Asquith, pan oedd ar ei ymweliad â Neuadd Gerdd Aberdeen, gwnaeth Phillips ei gorau glas i atal y swffragetiaid rhag darfu ar draws Asquith.[3][3]

Gwrthodwyd gwaith Phillips gan Emmeline Pankhurst. Pan gyrhaeddodd Pankhurst Aberdeen aeth ati gyda'i chynllun i arwain y brotest, er gwaetha barn Caroline Phillips. Digwyddodd yr aflonyddwch a chafwyd ymladd ym mhwll y gerddorfa; yna, taflwyd nhw allan o'r Neuadd. Ni fyddai perthynas Phillips fel arweinydd y suffragettes yn Aberdeen a charfan Emmeline Pankhurst o'r WSPU byth yn gwella o'r gwrthdaro hwn. Cyn pen dim, gofynnwyd iddi adael y mudiad a chymerodd Sylvia Pankhurst afael yn yr arweinyddiaeth yn Aberdeen.[2]

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. "Who is Caroline Phillips?". SCOTTISH SUFFRAGETTES (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-26. Cyrchwyd 2018-06-09.
  2. 2.0 2.1 "BBC Scotland - The brutal telegram revealing how the Pankhursts unceremoniously dismissed a loyal suffragette". BBC (yn Saesneg). 7 Mehefin 2018. Cyrchwyd 2018-06-09.
  3. 3.0 3.1 3.2 Ferguson, Laura (7 Chwefror 2018). "Pioneering Aberdeen journalist put job on the line to spearhead suffrage movement in North-east - Evening Express". Evening Express (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-06-09.