Caryl Thomas
Chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru yw Caryl Thomas (ganwyd 19 Chwefror 1986). Mae'n aelod o dîm Merched Bryste a thîm rygbi'r undeb cenedlaethol merched Cymru. Mae hi'n chwarae prop pen rhydd i Bristol Bears a Chymru, ac yn gefnwr i Worcester Warriors. Cynrychiolodd Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad i Ferched 2021.
Caryl Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 19 Chwefror 1986 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Safle | prop |
Cafodd ei geni yng Nghaerfyrddin.[1] Mae hi'n 1.68 m (5' 6“) ac ar 17 Mai 2021, roedd yn 95 kg (14st 11 pwys) ac roedd ganddi 55 cap.[2]
Gyrfa
golyguDechreuodd Thomas ei gyrfa yng Nghlwb Rygbi Bath cyn symud i Bristol Bears fel prop yn 2019, ac i Worcester Warriors fel cefnwr yn 2020.[3]
Pan nad yw hi'n chwarae rygbi mae wrthi naill ai fel prif hyfforddwr tîm rygbi menywod Prifysgol Caerfaddon, neu yn rhinwedd ei swydd fel rheolwr impact Sefydliad Rygbi Caerfaddon.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Caryl Thomas". Wales Rugby Union. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-30. Cyrchwyd 30 Mehefin 2018.
- ↑ wru.wales; adalwyd 17 Mai 2021.
- ↑ "Caryl Thomas". www.ultimaterugby.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-22.
- ↑ "Caryl Thomas". Bath Rugby Community Foundation (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-22. Cyrchwyd 2021-04-22.