Caerfyrddin

tref yn Ne Cymru

Tref sirol Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Caerfyrddin[1] (Saesneg: Carmarthen). Saif ar lan Afon Tywi rhyw 8 milltir (13 km) i'r gogledd o aber yr afon; mae hefyd yn gymuned. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddi boblogaeth o 14,185 ac mae ei harwynebedd yn 2,110hr. Yn ôl cyngor y dref, Caerfyrddin yw'r dref hynaf yng Nghymru; gwyddom i waliau'r dref gael eu codi oddeutu OC. Mae ganddi nifer o safleoedd treftadaeth sydd wedi goroesi dros y blynyddoedd; mae rhain yn cynnwys yr amffitheatr Rufeinig a rheilffordd y Gwili. Mae gan yr ardal gyfran uchel o siaradwyr Cymraeg ac mae'r ardal yn gartref i bencadlys Heddlu Dyfed-Powys, pencadlys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, campws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru. Yn 2014 penderfynwyd adleoli swyddfeydd S4C i Gaerfyrddin.[2]

Caerfyrddin
Mathtref farchnad, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth14,185 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,087.65 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8569°N 4.3164°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000494 Edit this on Wikidata
Cod OSSN415205 Edit this on Wikidata
Cod postSA31-33 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[4]

Geirdarddiad golygu

Mae'r cofnod cyntaf o'r enw'n ymddangos rhwng 1126 a 1153 fel "Chaermerthin", yna yn 1158 fel "Cairmerdin".

Adeiladwyd Caerfyrddin ar safle caer Rufeinig Moridunum, (a sillafwyd yng ngwaith Ptolemi, ac ers hynny, yn 'Maridunum'); Moridūnon oedd yr hen air Brythoneg, fodd bynnag sy'n gyfuniad o "môr" a "din" neu ddinas. Mae'r môr heddiw tua 20 km i gyfeiriad y de; mae'n bosibl mai o'r gair Brythoneg hwn 'môr-ddin' y daw'r gair 'Myrddin'; ni sonir am 'Myrddin' tan i Sieffre o Fynwy (1090-1155) bersonoli'r enw.[5]

Hanes golygu

Hanes Cynnar golygu

 
Hen ffotograff o'r bont c. 1890-1900

Credir bod y gaer Rufeinig yn dyddio o tua 75-77 O.C. Darganfuwyd swp o arian Rhufeinig yn ymyl safle'r gaer yn 2006.[6] Ger y gaer hefyd mae un o'r unig saith amffitheatr sydd wedi goroesi yng ngwledydd Prydain. Bu cloddio archaeolegol yno yn 1968 ac mae'r gaer yn 46 wrth 27 medr o faint gyda'r eisteddle yn 92m wrth 67m.[7] Credir bod patrwm strydoedd y dref wedi'i seilio ar yr hen gaer Rufeinig hon.

Adeiladodd y Norman William Fitz Baldwin gastell yma rywbryd o gwmpas 1094. Dinistrwyd y castell gan Lywelyn Fawr yn 1215 ond ail-adeiladwyd y castell yn 1223, a chodwyd mur o gwmpas y dref. Yn 1405 cipiwyd y dref a'r castell gan Owain Glyn Dŵr. Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaerfyrddin yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188. Erbyn y 12g roedd yn gyfuniad o'r hen a'r newydd: yr hen dref Gymreig ei natur o amgylch y priordy Awgwstinaidd ac Eglwys Sant Pedr, a'r dref Seisnig newydd o amgylch y castell. Cyfunwyd y ddwy ran yn 1546, pan grewyd un fwrdeistref, a ddaeth yn sir ymhen blynyddoedd - yn 1604. Cynhaliwyd eisteddfod yn y castell yn 1451. Dim ond y porthdy deudwr a godwyd ar ddechrau'r 14g sydd ar ôl bellach gan fod y rhan fwyaf o'r castell y tu ôl i swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin.

Tua 1250 ysgrifennwyd Llyfr Du Caerfyrddin, un o'r llawysgrifau Cymraeg hynaf, fwy na thebyg ym Mhriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog, sefydliad crefyddol Awstinaidd a godwyd yn 1148. Yn 1234 cafodd y tywysog ifanc Rhys Gryg o Ddeheubarth ei glwyfo'n angheuol mewn brwydr ger y dref a bu farw ymhen ychydig yn Llandeilo. Roedd Caerfyrddin erbyn hyn yn nwrn coron Lloegr ac yn ganolfan weinyddol bwysig, ac oddi yma y rheolwyd ac y gorfodwyd ffordd newydd o fyw ar Gymry'r de-orllewin. Oherwydd hyn, tyfodd y dref yn y cyfnod hwn. Yn 1282 sefydlwyd priordy arall gan y 'Brodyr Cardod' (y Ffransisgiaid) ac yno y claddwyd tad Harri VII sef Edmwnd Tudur, Rhys ap Thomas a Thudur Aled y bardd (m. 1526). Symudwyd nifer o'r beddau i Eglwys Gadeiriol Tyddewi wedi diddymu'r priordy hwn yn 1538.

Yn ystod cyfnod y Pla Du diwedd y 1340au, daeth y pla i Gaerfyrddin o ganlyniad i'r holl fasnachu llewyrchus oedd ar yr afon.[8] Mae haneswyr lleol yn lleoli safle claddu'r meirw adeg y pla yn y fynwent sydd ger Maes-yr-Ysgol a Llys Model tu ôl i Stryd Catherine.

Chwedl Arthur golygu

 
Myrddin, oddi ar y Nuremberg Chronicle (1493)

Cysylltiwyd y dref â'r dewin chwedlonol Myrddin. Un o'i broffwydoliaethau oedd y byddai'r dref yn sefyll tra bod y goeden dderwen hynafol oedd yng nghanol y dref yn sefyll, ond y byddai'r dref yn boddi pe byddai'n syrthio. Mae'r hen dderwen bellach yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn Abergwili. Ceir cyfeiriadau at Myrddin yn Llyfr Du Caerfyrddin yn cynnwys Ymddiddan Myrddin a Thaliesin, ac o bosibl at Arthur ei hun (Pa ŵr yw'r Porthor).

Cyfnod Modern Cynnar golygu

 
John Speed's 1610 map of Carmarthen.
 
Caerfyrddin, 1823

Yn dilyn y Ddeddfau Uno Cymru, daeth Caerfyrddin yn bencadlys cyfreithiol Llys y Sesiwn Fawr yn ne-orllewin Cymru.[9]

Ar 30 Mawrth, 1555, yn nheyrnasiad Mari Tudur, cafodd Robert Ferrar, Esgob Tyddewi, ei losgi wrth y stanc yn sgwâr y farchnad (Sgwar Nott erbyn hyn) ar ôl cael ei gyhuddo o heresi a dangos gormod o gariad tuag at y Cymry.

Pan agorwyd Ysgol ramadeg y Frenhines Elizabeth yn 1576 roedd dwy fil o drigolion yn byw yn y dref. Argraffwyd yr ail bapur newydd wythnosol Cymru yng Nghaerfyrddin, The Carmarthen Journal a daeth y dref yn ganolfan bwysig i argraffu, gydag argraffwyr fel John Ross a theulu'r Spurrells yn cartrefu yno.

Heddiw golygu

 
Prif borth Castell Caerfyrddin.

Adlewyrchir pwysigrwydd Caerfyrddin ym myd amaeth Cymru gan y ffaith y cafodd Undeb Amaethwyr Cymru ei sefydlu yn y dref yn 1955.

Mae Campws Caerfyrddin; Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn y dref.

Bu yma weithfeydd tunplat a haearn ar ddechrau'r 19eg ganrif yn ogystal â ffatri gwneud rhaffau. Bu Helyntion Beca yn yr ardal, a rhoed nifer o'i 'merched' o flaen eu gwell yn llys y dref. Yn 1843 ymosododd nifer o wrthdystwyr ar y tlodty lleol. Yn y 19eg ganrif roedd yn y dref dros gant a hanner o dafarnau.[10] Caniatawyd agor y tafarnau hyn ar bob diwrnod marchnad ac roedd yr oriau agor, o'r herwydd, yn gyfandirol iawn!

Yn 1999 gosodwyd ffordd osgoi ddwyreiniol gan leihau'r tagfeydd.

Agorwyd Canolfan S4C Yr Egin, pencadlys newydd S4C yno ym mis Hydref 2018. Mae gyferbyn â phrif gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar Ffordd y Coleg.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[11][12][13][14]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Caerfyrddin (pob oed) (14,185)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Caerfyrddin) (5,123)
  
37.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Caerfyrddin) (10620)
  
74.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Caerfyrddin) (2,390)
  
38.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion golygu

Yr Eisteddfod Genedlaethol golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin ym 1911 a 1974. Am wybodaeth bellach gweler:


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. s4c.co.uk; gwefan S4C;] adalwyd Ionawr 2015
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007), t.71
  6. "Roman treasure discovered on farm". BBC News. 17 Mehefin 2006. Cyrchwyd 28 Ebrill 2010.
  7. The Princeton Encyclopedia of Classical SitesMachine readable text
  8. Philip Ziegler, The Black Death, Penguin, 1969, tud. 199
  9. "Wales and the Law". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-07. Cyrchwyd 2012-11-02.
  10. Gwyddoniadur Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008, tud. 122.
  11. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  12. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  13. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  14. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni allanol golygu

Oriel golygu