Casét (darn beic)

Ar feic, casét yw'r enw a roddir ar y set o sbrocedi sydd ynghlwm â'r both ar olwyn ôl y beic. Casét yw'r datblygiad diweddaraf o beth alwyd gynt yn set-cocs (Saesneg: cogset) ac olwyn-rhydd (Saesneg: freewheel). Er fod casetiau ac olwyn-rhydd yn edrych yr un peth ar y wyneb ac yn cyflawni'r un pwrpas, mae gwahaniaethau mecanyddol pwysig, a nid ydynt yn ymgyfnewidiol. Oherwydd nad yw'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr beiciau'n deall y gwahaniaethau, defnyddir y ddau derm yn gyfnewidiol yn aml.[1]

Casét
Mathbicycle part Edit this on Wikidata
Rhan oderailleur, Gruppo, bicycle wheel Edit this on Wikidata
Yn cynnwyssprocket Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sawl olwyn-rhydd Shimano.

Olwyn-rhydd golygu

Mae olwyn-rhydd (a adnabuwyd hefyd fel bloc) wedi ei gyfansoddi o set-cocs ôl a mecanwaith clicied ddannedd mewn un cysodiad. Mae'n rhaid defnyddio olwyn-rhydd gyda bothau wedi eu edafu. Mae'r olwyn-rhydd yn cael ei gysylltu â'r both trwy ddefnyddio edau llaw-dde. Roedd gan bothau ôl traddodiadol set o edau safonol (1.375 x 24 TPI), i allu sgriwio olwyn-rhydd safonol arni.[2] Roedd hyn yn galluogi cyfuno bothau ac olwyn-rhydd o wahanol frand. Defnyddiodd y rhan fwyaf o feiciau'r dull yma hyd yr 1980au,[1] ac mae beiciau sawl-gêr pen-isaf y farchnad, beiciau un-gêr, yn arbennig BMX a beiciau gwasanaethol, yn dal i gael eu cynhyrchu a'u gwerthu gyda olwyn-rhydd.

Yr anfantais o ddefnyddio olwyn-rhydd yw eu bod yn rhoi mwy o straen ar yr echel oherwydd fod bearing yr ochr gyrru wedi ei leoli ar ochr mewnol yr olwyn-rhydd, ger yr echel. Mae llai o ddadleoliad arwyddocaol ar olwyn-rhydd un-gêr gan eu bod yn gulach ac felly'n lleihau'r straen ar yr echel.

Mae grym pedalu yn tynhau'r olwyn-rhydd ar y both, felly nid oes angen teclyn i'w roi ar y beic. Mae'r mecanwaith olwyn-rhydd yn atal yr olwyn-rhydd rhag gael ei dynnu wrth ond ei ddad-sgriwio. Yn hytrach, gellir tynnu olwyn-rhydd oddiar y both gan ddefnyddio teclyn arbennig, sy'n cysylltu gyda sblein neu set o riciau tu mewn i ben allanol yr olwyn-rhydd, ac yn cael ei droi yn wrthglocwedd.

Casetiau golygu

Y gwahaniaeth rhwng casetiau ac olwyn-rhydd yw fod casét yn gyfres o sbleiniau syth sy'n ffurfio cysylltiad mecanyddol rhwng y gerau a both sy'n gydnaws â chasét, ac a elwir yn both-rhydd, sy'n cynnwys mecanwaith clicied ddannedd. Deilir yr holl gasét ar y both gan gylch-cloi sy'n cael ei sgriwio arno. Mae rhai systemau casét o'r 1980au a'r 1990au cynnar yn defnyddio cocsen fach wedi ei edafu, sy'n sgriwio ymlaen i ddal gweddill y cocs sbleiniog mwy arnodd, cyfeirir at yr holl set fel clwstwr.

 
Casét 9-gêr SRAM

Gwerthir sbrocedi fel set cyflawn fel rheol, gelwir y set yn "gasét". Deilir sbrocedi casét at eu gilydd had dri bollt neu rhybedi bychain, er mwyn hwyluso'r broses o'i roi ar y beic, ond nid yw'r rhain yn angenrheidiol i weithrediad y casét. Gellir hefyd prynu sbrocedi ar wahân. Pan mae sbroced angen cael ei amnewid am un newydd, neu os ydy'r defnyddiwr eisiau newid cymhareb gêr y beic, dim ond y sbrocedi unigol sy'n gorfod cael eu amnewid yn hytrach na gorfod amnewid yr mecanwaith clicied ddannedd yn ogystal.

Gellir dal amnewid y mecanwaith clicied ddannedd, a adnabyddir fel corff both-rhydd, ar y rhan fwyaf o fothau, ond mae yn ffurfio rhan strwythurol o'r both. Mantais mewn systemau casét yw fod bearing yr ochr gyrru yn gallu cael ei leoli ar yr ochr allanol ger y ffram, yn hytrach na fod yn agos at yr echel. Mae hyn yn lleihau'r straen ar yr echel yn sylweddol, gan achosi i blygu neu dorri echel fod yn ddigwyddiad prin iawn.

Ers eu cyflwyniad yn yr 1970au[3] mae defnydd casetiau wedi cael eu defnyddio yn gynyddol ar feiciau, gan gychwyn gyda'r beiciau drytaf, ond ar gael yn gyffredin ar y rhan fwyaf o feiciau rhatach erbyn hyn. Erbyn hyn, mae pob beic derailleur ym mhen ucha'r farchnad yn defnyddio'r system hwn.

Nifer a lled y sbrocedi golygu

Mae'r nifer o sbrocedi sydd mewn bloc neu gasét wedi cynyddu dros amser, o dri neu bedwar cyn yr Ail Ryfel Byd, i bump neu chwech rhwng yr 1950au a'r 1970au, gan gynyddu ar gyflwyniad casetiau i saith ac wyth yn yr 1980au, ac yna naw, deg, ac unarddeg yn gruppo beic rasio newydd sbon Campagnolo. Rhwng saith ac wyth sbroced, arhosodd lled y sbrocedi yr un fath, ond lleihaodd y bylchiadau rhwng y sbrocedi a lledaenodd cefn y ffram ychydig i gymryd y nifer mwy. Fe gynhyrchwyd y sbrocedi'n deneuach ar gyfer naw, ac yn deneuach fyth ar gyfer deg. Oherwydd y sbrocedi teneuach, cynhyrchwyd cadwyn teneuach hefyd. Mae defnydd darnau teneuach o fetel wedi achosi i'r gadwyn a'r sbrocedi bara llai, oherwydd yr ymestyn graddol sy'n digwydd i'r gadwyn wrth ei ddefnyddio, a dreuliad ffrithiant y sbrocedi a'r gadwyn.

Gwelliannau shifftio golygu

Mae'r gwneuthurwyr wedi datblygu gwelliannau sylweddol wrth newid gêr, gan gychwyn gyda system Hyperglide Shimano, system UltraDrive Campagnolo, a system OpenGlide SRAM. Mae'r casetiau'n cael eu peiriannu gyda phroffilio dannedd cymhleth sydd wedi ei gynllunio i godi a disgyn cadwyn, mae'r gadwyn ei hun hefyd wedi ei greu er mwyn hwyluso'r broses o newid gêr, ac i gydweithio gyda rhyngwyneb rampiau symud arbennig y gwneuthurwr. Ynghyd â liferau/symudwyr brêc a gêr cyfannol, wedi galluogi newid gêr pan mae mwy o bwysedd ar y mecanwaith nag or blaen, megis wrth reidio allan o'r cyfrwy.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  Sheldon Brown. Freewheel or Cassette?.
  2.  Sheldon Brown. Traditional Thread-on Freewheels.
  3.  Frank J. Berto (26 Awst 1998). Sunset for Suntour. Proceedings of the 9th International Cycle History Conference. Van der Plas.

Dolenni allanol golygu