Casgliad trefnus o ddarnau mecanyddol gwneuthurwyr cydrannau beic yw gruppo (o'r Eidaleg am "grŵp") neu groupset yn Saesneg. Mae'n cyfeirio fel rheol at bob cydran sydd yn y beic heblaw am y ffrâm, fforch, stem, olwynion, teiars, a'r pwyntiau cyswllt y reidiwr, megis y cyfrwy a'r barrau llywio.

Mae fel arfer yn cynnwys y darnau canlynol:

Y prif wneuthurwyr gruppo cydrannau beic yw Shimano, SRAM a Campagnolo ar gyfer beiciau rasio, a Shimano a SRAM ar gyfer beiciau mynydd.

Mae'r gwneuthurwyr fel arfer yn cynnig dewis o sawl gruppo, gyda phob un wedi ei anelu at gyllid neu ddefnydd gwahanol. Er enghraifft, mae Dura-Ace, Record a Red yn gruppos o safon uwch ar gyfer rasio gan Shimano, Campagnolo a SRAM.

Dolenni allanol

golygu