Cynhwysydd ar gyfer storio pensiliau yw cas pensiliau neu blwch pensiliau. Gall cas pensiliau hefyd gynnwys amrywiaeth o ddeunyddiau ysgrifennu eraill, yn cynnwys pethau i wneud min ar bensil, ysgrifbinau, ffyn glud, rwberi, sisyrnau a phrenau mesur.

Cas pensiliau
Enghraifft o'r canlynolcategori o gynhyrchion Edit this on Wikidata
Mathtrousse, box, filing & organization Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Blwch penseli

Gall casau pensiliau fod wedi eu gwneud o amrywiaeth o ddeunyddiau fel pren neu fetal. Mae gan rai casau pensiliau gragen allanol galed tra bod eraill wedi'u gwneud o ddeunydd meddal fel plastig, lledr neu cotwm. Yn aml bydd y fersiynau meddal yn cael eu hagor a'u cau gan ddefnyddio sip.

Pwrpas cas pensiliau yw hwyluso'r dasg o gario eitemau bychain fel pensiliau o un man i'r llall, a'u cadw gyda'i gilydd.

Roedd casau pensiliau cynnar yn grwp neu silindrig eu siâp. Roedd rhai wedi eu haddurno gyda iasbis (gw. un a ddefnyddiwyd yn 1860) neu blatinwm (yn 1874).[1] Cafodd y patent cyntaf ar gas pensiliau ei gofrestu yn yr Unol Daleithiau yn 1946. Cafodd ei wneud gan Verona Pearl Amoth, a ddyfeisiodd declynnau eraill ar gyfer ysgrifennu fel rwberi ar gyfer pensiliau oedd yn gallu cael eu cyfnewid.

Cyfeiriadau golygu

  1. Nadelhoffer, Hans (2007). Cartier. Chronicle Books. t. 201. ISBN 081186099X.