Sip
Dyfais boblogaidd ar gyfer clymu dau ddarn o ddefnydd at ei gilydd dros dro yw sip. Defnyddir mewn dillad, er enghraifft siacedi a jîns, bagiau, offer gwersylla, megis pebyll a sachau cysgu yn ogystal â nifer o eitemau eraill a ddefnyddiwn o ddydd i ddydd.
Arddangosodd Whitcomb L. Judson ei "glo cau" (Saesneg: Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value).) yn Ffair y Byd Chicago, 1893. Cafodd y syniad ei ddatblygu gan y peiriannydd Swedaidd-Americanaidd Gideon Sundback a dderbynodd patent ym 1913. Cafodd dyfais debyg ei batentu ym 1912 yn Ewrop gan Catharina Kuhn-Moos. Defnyddiwyd sipiau ar ddillad dynion a menywod yn gyntaf ar ddiwedd y 1920au.[1]
Disgrifiad
golyguMae dau ddarn o dâp defnydd, sy'n cael eu glynu at y ddau ddarn o defnydd sydd i gael ei uno; ar hyd ymyl y tâp, mae degau neu gannoedd o ddannedd bychain plastig neu fetel. Mae'r dannedd rhain wedi cael eu siapio'n arbennig i ffitio gyda'i gilydd. Mae llithrydd, sy'n cael ei dynnu gyda'r llaw, yn symud o un ben y sip i'r llall, gan symud ar hyd y rhes o ddannedd. O fewn y llithrydd mae sianel mewn siâp Y, sy'n masgio'r ddau res o ddannedd at ei gilydd, neu yn eu gwahanu, yn dibynnu ar ba gyfeiriad mae'r llithiwr yn symud. Mae'r ffrithiant a'r dirgryniad a achosir gan y llithiwr yn symud yn erbyn y dannedd yn crau sain nodweddiadol, hwn mae'n debyg yw tarddiad y gair sip. Gall y gair hefyd fod wedi tarddu o'r cyflymder y gall y ddau ddarn o ddefnydd gael eu clymu at ei gilydd i gymharu a'r amser mae'n cymryd i cau rhes o fotymau neu gau criau.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) zipper. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Rhagfyr 2013.