Casi Wyn

cantores ac awdur o Gymru

Cantores, cyfansoddwraig, bardd ac awdures o ardal Bangor ydy Casi Wyn. Hi yw Bardd Plant Cymru.[1]

Casi Wyn
Menyw gyda gwallt melyn yn canu yn yr awyr agored.
Casi Wyn yn perfformio ym Mhatagonia
GanwydBangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata

Mae hi wedi rhyddhau recordiau gyda labeli I Ka Ching[2] ac yn fwy diweddar dan yr enw Casi a Casi & The Blind Harpist gyda Chess Club Records a Roc Nation. Perfformiodd yng ngŵyl SXSW[3] a BBC Proms Abertawe gyda cherddorfa genedlaethol y BBC. Yn 2019, sefydlodd y cylchgrawn Codi Pais[4] gyda Manon Dafydd a Lowri Ifor.

Ymddangosodd yn y gyfres deledu Porthpenwaig.

Yn 2022, cyfarwyddodd ffilm ddogfen o'r enw Hunan Hyder[5] gyda Carys Huws yn dilyn stori'r artist Marged Sion[6] o grŵp Self Esteem.

Mae Casi Wyn yn gyn-ddisgybl Ysgol Tryfan[7].

Cyfeiriadau golygu

  1. "Casi Wyn yw Bardd Plant Cymru 2021-2023". Literature Wales. Cyrchwyd 2021-10-10.
  2. "Casi Wyn | Cerdd Cymru : Music Wales". www.cerddcymru.co.uk. Cyrchwyd 2020-10-06.
  3. (yn en) CASI - The Beast // BBC Introducing at SXSW 2017, https://www.youtube.com/watch?v=kgXIG__Cc8U, adalwyd 2023-02-23
  4. "Codi Pais (@codipais) • Instagram photos and videos". www.instagram.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-23.
  5. Reid, Madeline (2022-06-29). "Welsh Creatives Marged, Carys Huws and Casi Wyn Share New Short Film 'Hunan Hyder' - BRICKS Magazine". bricksmagazine.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-23.
  6. "BBC Radio 4 - Woman's Hour, 'I haven't heard that stuff being spoken about before [in Welsh]'". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-23.
  7. "Ateb y Galw: Y gantores Casi Wyn". BBC Cymru Fyw. 2021-04-19. Cyrchwyd 2021-04-22.