Patagonia
Rhanbarth daearyddol yn Ne America yw Patagonia sy'n ymestyn o Tsile ar draws yr Andes i'r Ariannin. Ar ochr Tsile o'r Andes fe ymestyn Patagonia i'r de o ledred 42°D, gan gynnwys rhan ddeheuol rhanbarth politicaidd Los Lagos a rhanbarthau Aysén a Magallanes (heblaw am y rhan o Antártica a hawlir gan Tsile).
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | yr Ariannin, Tsile |
Gwlad | Yr Ariannin Tsile |
Cyfesurynnau | 41.81015°S 68.90627°W |
Ar ochr yr Ariannin o'r Andes fe ymestyn Patagonia i'r de o afonydd Neuquén a Río Colorado, gan gynnwys y taleithiau Neuquén, Río Negro, Chubut, Santa Cruz, Tierra del Fuego, a rhan ddeheuol Talaith Buenos Aires. Deillia'r enw Patagonia o Batagones, sef enw'r bobl gyntaf i gyrraedd yr ardal rhyw 10,000 o flynyddoedd yn ôl.[1]
Yn yr Ariannin, mae Patagonia wedi ei rhannu yn bedair talaith:
- Neuquén: 94,078 km², rhwng yr afonydd Nequen a Limay, yn ymestyn tua'r de hyd at lan gogleddol Llyn Nahuel-Huapi, a thua'r gogledd hyd at y Rio Colorado.
- Río Negro: 203,013 km², rhwng Môr yr Iwerydd a'r Andes, rhwng Nequen a lledred 42° De.
- Chubut: 224,686 km², rhwng 42° a 46° De.
- Santa Cruz: 243,943 km², rhwng Chubut a ffîn Tsili.
Daw'r enw o'r gair patagón[2] sef cewir mewn mytholeg a chredwyd eu bod ddwywaith maint dyn - 12 i 15 troedfedd (3.7 i 4.6 m).
Gwladfa Gymreig
golyguYng nghanol y 19g, rhwng 1865 a 1912, cyrhaeddodd minteioedd o Gymry er mwyn sefydlu gwladfa ym Mhatagonia yr Ariannin. Y Wladfa oedd enw'r Cymry hynny ar yr ardal honno.
Erys rhai siaradwyr Cymraeg yn nhalaith Chubut hyd heddiw. Er mwyn cynnal y Gymraeg yn Chubut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn anfon athrawon o Gymru at yr ysgolion Cymraeg yno.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Patagonia: Natural History, Prehistory and Ethnography at the Uttermost End of the Earth, C. McEwan, L.A. ac A. Prieto (eds), Princeton University Press gyda Gwasg yr Amgueddfa Brydeinig, 1997. ISBN 0-691-05849-0
- ↑ Antonio Pigafetta, 1524: "Il capitano generale nominò questi popoli Patagoni."