Un o olynwyr Alecsander Fawr a brenin Macedonia o 305 CC hyd ei farwolaeth oedd Cassander, Hen Roeg: Κάσσανδρος, Kassandros (ca. 350 CC - 297 CC),

Cassander
Ganwyd355 CC Edit this on Wikidata
Bu farw296 CC Edit this on Wikidata
o edema Edit this on Wikidata
Macedon Edit this on Wikidata
Galwedigaethrhaglyw Edit this on Wikidata
SwyddBrenhinoedd Macedon Edit this on Wikidata
TadAntipater Edit this on Wikidata
PriodThessalonike o Macedon Edit this on Wikidata
PlantPhilip IV of Macedon, Alexandros V of Macedon, Antipater I of Macedon Edit this on Wikidata
LlinachAntipatrid dynasty Edit this on Wikidata
     Teyrnas Cassander Diadochi eraill:      Teyrnas Seleucus      Teyrnas Lysimachus      Teyrnas Ptolemi      Epirus Eraill      Carthago      Gweriniaeth Rhufain      Gwladychfeydd Groegaidd

Roedd Cassander yn fab i Antipater. Ceir y cyfnod hanesyddol cyntaf amdano yn cyrraedd llys Alecsander Fawr yn ninas is Babylon yn 323 CC, wedi ei yrru yno gan ei dad. Wedi marwolaeth Alecsander, daeth Antipater yn rheolwr Macedon ar ran mab ieuanc Alecsander, Alexander IV. Pan deimlodd Antipater ei hun ar fin marw yn 319 CC, trosglwyddodd reolaeth y deyrnas i Polyperchon, yn hytrach nag i Cassander.

Ymateb Cassander i hyn oedd gwneud cynghrair ag Antigonus, Ptolemi a Lysimachus yn erbyn Polyperchon. Wedi dinistrio llynges Polyperchon, cyhoeddodd Cassander ei hun yn rheolwr Macedon yn 317 CC. Gosododd warchae ar Olympias, mam Alecsander Fawr, ynghyd a'i weddw Roxane a'i fab Alexander IV, yn ninas Pydna. Pan ildiodd y ddinas, dienyddiodd Olympias, a charcharu Roxane ac Alexander yn Amphipolis. Lladdwyd hwy yn ddiweddarach.

Cyhoeddodd Cassander ei hun y frenin yn 305 CC. Wedi i Antigonus gael ei ladd ym Mrwydr Ipsus yn 301 CC, ni allai neb fygwth ei reolaeth ar deyrnas Macedon.

Olynwyd ef gan ei fab, Philip IV. Ail-sefydlodd Cassander ddinas Therma fel Thessalonica, wedi ei henwi ar ôl ei wraig.