Alecsander III, brenin Macedon, a elwir yn Alecsander Fawr (Groeg: Μέγας Αλέξανδρος) 21 Gorffennaf 356 CC - 13 Mehefin 323 oedd brenin Macedon rhwng 336 a 323. Cafodd ei eni yn ninas Pella, prifddinas Macedon, yn fab i Philip II a'i wraig Olympias. Concwerodd y rhan fwyaf o'r Ymerodraeth Bersaidd a rhan fawr o hynny o'r byd oedd yn wybyddus yn ei amser ef.

Alecsander Fawr
Alecsander ym mrwydr Issus. Mosaic yn Amgueddfa Archaeolegol Gendelaethol Napoli
Ganwyd20 Gorffennaf 356 CC Edit this on Wikidata
Pella Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mehefin 323 CC Edit this on Wikidata
o teiffoid Edit this on Wikidata
Babilon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMacedon Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, arweinydd milwrol, teyrn Edit this on Wikidata
SwyddBrenhinoedd Macedon, Pharo Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAristoteles Edit this on Wikidata
TadPhilip II, brenin Macedon Edit this on Wikidata
MamOlympias Edit this on Wikidata
PriodRoxana, Stateira, Parysatis II Edit this on Wikidata
PartnerBarsine, Campaspe, Euxenippus, Bagoas, Hephaestion Edit this on Wikidata
PlantAlexandros IV of Macedon, Heracles of Macedon Edit this on Wikidata
PerthnasauEurydice I of Macedon, Amyntas III of Macedon, Neoptolemus I of Epirus Edit this on Wikidata
LlinachBrenhinllin Argead Edit this on Wikidata
Alecsander ym mrwydr Issus. Mosäig yn Amgueddfa Archaeolegol Gendelaethol Napoli

Roedd tad Alecsander, Philip II, wedi adeiladu byddin effeithiol dros ben ac wedi concro dinasoedd Groeg. Yn 13 oed rhoddwyd ef dan ofal Aristoteles fel tiwtor. Erbyn 340 yr oedd ei dad eisoes yn rhoi rhan iddo yn llywodraeth y deyrnas. Yn 338 CC, ef oedd pennaeth adain chwith byddin Philip ym Mrwydr Chaeronea, buddugoliaeth a wnaeth Philip yn feistr ar Wlad Groeg.

Y flwyddyn wedyn, bu rhwyg rhwng Alecsander a'i dad, pan ysgarodd Philip fam Alecsander, Olympias, er mwyn priodi Eurydice. Ffôdd Alecsander ac Olympias i Epirus am gyfnod, cyn cymodi a Philip a dychwelyd. Llofruddiwyd Philip yn 336 CC gan Pausanias, aelod o'i warchodlu. Daeth Alecsander yn frenin, ond yr oedd nifer o ddinasoedd Groeg wedi codi mewn gwrthryfel wedi clywed y newyddion am farw ei dad. Dangosodd Alecsander ei allu milwrol trwy roi terfyn buan ar y gwrthryfel.

Roedd Philip eisoes wedi bwriadu ymosod ar yr ymerodraeth Bersaidd, a gweithredodd Alecsander ar gynlluniau ei dad. Croesodd i Asia Leiaf a gorchfygodd y Persiaid ym mrwydr Granicus. Llwyddodd i osod ei awdurdod ar y rhan fwyaf o ddinasoedd Groeg gorllewin Asia Leiaf a theyrnasoedd fel Mysia, Lydia, Caria a Lycia. Llwyddodd ei gafrdidog Parmenion i dawelu Phrygia. Y flwyddyn ganlynol aeth ymhellach i'r dwyrain. Ymunodd byddinoedd Alecsander a Parmenion ac aethant yn eu blaen trwy'r Pyrth Cilicia enwog ac i lawr i wastadiroedd Cilicia. Gorchfygodd frenin Persia, Darius III, ym mrwydr Issus (ar y ffin â Syria heddiw).

Cerfddelw o Alecsander Fawr

Yn hytrach na dilyn Darius, troes Alecsander ei olygon i'r de. Roedd yn hanfodol iddo dorri'r cysylltiad rhwng Darius a llynges y Persiaid ar Fôr y Canoldir, a oedd yn fygythiad i Asia Leiaf a Macedon ei hun. Concrodd Alecsander Ffenicia wedi gwarchae saith mis ar ddinas Tyrus. Anafwyd ef yn ddifrifol yn ystod y gwarchae ar ddinas Gaza, a bu raid iddo aros yno am ddau fis i wella. Aeth ymlaen i'r Aifft, lle cyhoeddwyd ef yn fab y duw Amon ar ôl ymweliad â Theml Jupiter-Ammon yn Siwa, ger y ffin â thalaith Cyrenaica (Libia heddiw). Sefydlodd ddinas Alexandria yn yr Aifft, un o nifer o ddinasoedd a sefydlodd sy'n dwyn ei enw. Yn 331 gorchfygodd Darius eto ym mrwydr Gaugamela ar lan Afon Tigris. Ychydig yn ddiweddarach lladdwyd Darius gan ei ŵyr ei hun wrth iddo geisio ffoi am loches i ogledd Iran.

Trodd Alecsander ei olygon i ogledd-ddwyrain yr ymerodraeth. Aeth trwy diriogaeth gorllewin a de Affganistan trwy Herat ac ardal Helmand. Croesodd yr Hindu Kush ar ddechrau'r gaeaf a choncrodd Bactriana, lle priododd y dywysoges Roxana. Gadwodd rhai hen filwyr i sefydlu dinasoedd newydd; y mwyaf anghysbell o'r rhain oedd Alexandria Eschate ar lan afon Jaxartes (yn Tajicistan heddiw). Croesodd brif gadwyn yr Hindu Kush, tros Fwlch Khyber, a disgynodd i ddyffryn Afon Indus, lle gorchfygodd y brenin Indiaidd Porus ym mrwydr Hidaspes. Ar ôl anfon rhan o'r fyddin yn ôl trwy Affganistan i warchod y taleithiau yno, dychwelodd Alecsander a rhan arall ei fyddin i'r Dwyrain Canol trwy ddilyn arfordir de Pacistan ac Iran. Ar y daith beryglus ac anodd collwyd nifer o filwyr, yn arbennig wrth groesi anialdiroedd Makran. Ceisiodd y llynges dan arweiniad Perdiccas, a adeiladwyd gan Alecsander ar Afon Indus, gysgodi'r fyddin, ond yn aflwyddiannus.

Bu farw Alecsander ym Mabilon, Mesopotamia yn 32 oed.[1] Mae ansicrwydd beth yn union oedd y clefyd a'i lladdodd; math o dwymyn mae'n ymddangos. Wedi ei farwolaeth bu ymladd ffyrnig ymysg ei gadfridogion am ei deyrnas. Ganwyd ei fab, hefyd yn Alecsander, i Roxane wedi marwolaeth ei dad. Daeth ef yn frenin mewn enw am gyfnod byr fel Alecsander IV, ond o fewn ychydig flynyddoedd nid oedd neb o deulu Alecsander yn parhau'n fyw.

Ymhlith y mwyaf llwyddiannus o'r cadfridogion fu'n ymladd am ran o'i deyrnas gellir enwi Ptolemi a ddaeth i rym yn yr Aifft a Seleucus a enillodd ran helaeth o Asia.

Tyfodd nifer o chwedlau am Alecsander yn y dwyrain a daeth yn ffigwr llên gwerin. Daeth rhai o'r chwedlau hyn i Ewrop yn yr Oesoedd Canol, gan gynnwys Cymru (cyfeirir at Alecsander mewn cerdd am ei anturiaethau chwedlonol sydd i'w chael yn Llyfr Taliesin a hefyd mewn cerdd gan Werful Mechain).[2] Cyfeirir ato yn y Beibl a'r Coran.

Un o edmygwyr mawr Alecsander oedd Napoleon, a gadwai gopi o hanes ei fywyd wrth erchwyn ei wely.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Kingdoms of the Successors of Alexander: After the Battle of Ipsus, B.C. 301". World Digital Library. 1800–1884. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2013.CS1 maint: date format (link)
  2. Gwerful Mechain. The works of Gwerful Mechain. Peterborough, Ontario, Canada. t. 60. ISBN 978-1-55481-414-5. OCLC 1022466006.
Rhagflaenydd:
Philip II
Brenin Macedon
336 CC - 323 CC
Olynydd:
Philip III ac Alecsander IV
Rhagflaenydd:
Darius III
Brenin Persia
330 CC - 323 CC
Olynydd:
Philip III ac Alecsander IV
Rhagflaenydd:
Darius III
Brenin yr Aifft
332 CC - 323 CC
Olynydd:
Philip III ac Alecsander IV