Castell Baglan

castell, Baglan

Castell ym mwrdreistref sirol Castell-nedd Port Talbot yw Plas Baglan neu Gastell Baglan. Mae'n enghraifft prin iawn o gastell carreg a adeiladwyd gan Arglwyddi Cymreig yn y 12g. Saif y castell ar lethrau Mynydd Dinas, ar gyrion pentref Baglan]], ac i'r gogledd o dref Port Talbot. Mae'n safle cryf, gan ddominyddu'r tir rhwng y bryniau a'r môr, ble saif Port Talbot heddiw. Yn y 12g roedd ar y ffin rhwng yr amddiffynwyr a'r goresgynnwyr Normaniaid a'u cestyll yng Nghynffig a Phenybont.[1]

Castell Baglan
Mathcastell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.615707°N 3.797854°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwGM358 Edit this on Wikidata

Er bod coedwig yn tyfu dros y safle nawr, mae olion y waliau yn dangos ffurf a maint y castell oedd yn cynnwys tŵr neu neuadd ar y llawr uchaf. Ychydig iawn o dystiolaeth ysgrifenedig sy'n bodoli, ond mae cyfnod cynnar y castell, ei ffurf a'i safle unig yn awgrymu'n gryf ei fod yn gadarnle Arglwyddi Cymreig Afan. Mae'n debyg yr adeiladwyd y castell ar ôl i'r Arglwydd Rhys ddinistrio castell Normanaidd Aberafan ym 1153. Un o Arglwyddi Afan oedd Morgan Gam (1217-1241). Gyda chestyll y Normaniaid ym Mhenybont ac yng Nghynffig, roedd Plas Baglan, felly, ar y ffin.

Defnyddiwyd Castell Baglan i lywodraethu'r ardal ond ar ôl i Arglwyddi Afan adeiladu castell yn Aberafan a chreu tref yn y 14g, collodd ei bwysigrwydd amddiffynnol. Datblygodd y castell fel cartre i deulu'r arglwyddi hyn, gyda chysylltiadau yn hwyrach gyda'r bonheddwr a'r bardd Ieuan Gethin ab Ifan ap Lleisan ap Rhys (1400-1480).

Credir mai oedd Plas Baglan "Castell y wiryones", y mwya gorllewinol o'r tri chastell, a nodwyd ym Maglan gan Edward Llwyd (gyda Chastell Bolan a chaer o'r Oes Haearn). Mae'n debyg iddo ddadfeilio'n arw yny 17g.

Mae'r safle yn heneb gofrestredig ond mewn perchnogaeth breifat. Mae llwybr cyhoeddus yn rhedeg yn agos iddo.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Glamorgan: Early Castles” RCAHMW HMSO 1991