Edward Lhuyd
Roedd Edward Lhuyd (hefyd Llwyd a Lloyd; 1660 – 30 Mehefin 1709) yn naturiaethwr, botanegwr, ieithydd, daearegydd a hynafiaethydd o Gymru. Ef ysgrifennodd y disgrifiad gwyddonol cyntaf o'r deinosor Rutellum implicatum[1]. Etholwyd Lhuyd yn aelod o'r Gymdeithas Frenhinol, flwyddyn cyn ei farwolaeth ym 1709. Enwyd ry lili a ddarganfuasai yn tyfu ar yr Wyddfa am gyfnod yn Lloydia serotina (a adnabyddir bellach fel Gagea serotina) ar ei ôl, yn ogystal â Chymdeithas Edward Llwyd, sef cymdeithas naturiaethol genedlaethol Cymru.
Edward Lhuyd | |
---|---|
Penddelw Edward Lhuyd (gan John Meirion Morris, 2001) y tu allan i Ganolfan Uwchefrydau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth | |
Ganwyd | 1660 Loppington |
Bu farw | 30 Mehefin 1709 Rhydychen |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | naturiaethydd, curadur, daearyddwr, botanegydd, ieithydd |
Swydd | cyfarwyddwr amgueddfa |
Adnabyddus am | Archæologia Britannica, Transcript of Lhuyd's Parochialia, &c., V. An account of very large stones voided per urethram. In a letter from Mr Edw. Lhwyd, keeper of the Ashmolean Museum in Oxford, to Dr Hans Sloane, S. R. S. |
Tad | Edward Lloyd |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Edward Lhuyd yn fab gordderch i Edward Lloyd o Lanforda, ger Croesoswallt, aelod o deulu bonheddig y Llwydiaid, a pherthynas bell iddo, Bridget Pryse o Glanffraid, oedd yn perthyn i un o ganghennau teulu Gogerddan. Magwyd Lhuyd ym mhlwyf Lappington yn Swydd Amwythig. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Croesoswallt ac, o 1682 ymlaen, yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, er iddo adael y coleg cyn iddo raddio. Ym 1684 penodwyd ef yn gynorthwyydd i Robert Plot fel Ceidwad Amgueddfa'r Ashmolean yn Rhydychen; bu yntau yn ddiweddarach yn Geidwad yr amgueddfa honno o 1690 hyd 1709.
-
Lili'r Wyddfa a adnabyddid am ganrifoedd fel Lloydia serotina.
-
Llyfryddiaeth a Chyfarwyddiadur
-
Britannicae Descriptionis Fragmentum avtore Humphrey Lhuyd, Denbyghiense, Cambro Britanno. Llwyd, Humphrey (1527-1568); Cyhoeddwyd gan Apud Joannem Birckmannum, Coloniae Agrippinae
Teithiai Lhuyd ar hyd a lled Prydain yn ei waith. Aeth ar daith i Eryri ym 1688 er mwyn cofnodi planhigion lleol y fro ar gyfer Synopsis Methodica Stirpium Britannicorum, llyfr gan y botanegwr John Ray. Yna, wedi 1697, cychwynnodd Lhuyd ar daith o gwmpas pob sir yng Nghymru, yn ogystal â'r Alban, Iwerddon, Cernyw a Llydaw. Argraffwyd Lithophylacii Britannici Ichnographia, ei gatalog o ffosiliaid, a gasglwyd o amgylch ardal Rhydychen yn bennaf, ym 1699 gydag ychydig o gymorth ariannol gan Isaac Newton. Ym 1707 cyhoeddodd Lhuyd y gyfrol Glossography, y gyfrol gyntaf o'r Archaeologia Britannica arfaethedig a'r unig un a welodd olau dydd, sy'n astudiaeth o iaith a diwylliant y gwledydd Celtaidd ar seiliau gwyddonol. Roedd y llyfr yn garreg filltir bwysig yn y meysydd hynny; man cychwyn yr astudiaeth fodern o'r ieithoedd Celtaidd.
Enwyd cymdeithas naturiaethwyr Cymru, sef Cymdeithas Edward Llwyd ar ei ôl.[2]
Englyn coffhád
golygu- Meini nadd y mynyddoedd - a gwaliau
- Ac olion dinasoedd
- A dail, dy fyfyrdod oedd
- A hanesion hen oesoedd.
- John Morgan (c. 1688 - c. 1734)
Llyfryddiaeth
golygu- R.T. Gunther, The Life and Letters of Edward Lhuyd (1945)
- Frank Emery, Edward Lhuyd (1971)
- Brynley F. Roberts, Edward Lhuyd, the Making of a Scientist (1980)
- Edward Lhwyd 1660-1709 - Llyfryddiaeth a Chyfarwyddiadur (2009)
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Delair a Sarjeant, 2002
- ↑ Gwefan Cymdeithas Edwrd Llwyd; adalwyd 13 Ebrill 2020