Castell Benton

castell yn Burton, Sir Benfro

Castell bychan sy'n dyddio yn ol i'r 13g yw Castell Benton. Mae wedi'i leoli tua chwe milltir i'r dwyrain o Aberdaugleddau, ar lan ogleddol Afon Cleddau, ger pentref Burton, Sir Benfro. Nid oes cofnod o'i hanes yn y Canol Oesoedd.

Castell Benton
Mathcastell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBurton Edit this on Wikidata
SirSir Benfro
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr29.4 metr, 28.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7251°N 4.88941°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Peintiwyd adfeilion y Castell gan Sandby yn 1779 a bu'n rhan o ystad Owen o Orielton. Prynwyd ac adnewyddwyd y Castell yn y 1930au gan y peiriannydd sifyl Ernest Pegge.

Mae'r Castell wedi'i restru fel adeilad Gradd II* am ei fod o ddiddordeb hanesyddol ac yn enghraifft o gastell canoloesol sydd wedi'i adnewyddu.