Burton, Sir Benfro

pentref yn Sir Benfro

Pentref a chymuned yn ne Sir Benfro, Cymru, yw Burton.[1] Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif ar ochr ogleddol Dyfrffordd Aberdaugleddau, i'r gogledd o dref Penfro. Saif Doc Penfro yr ochr arall i'r dŵr, a Burton oedd terfynfa ogleddol y fferi hyd nes i'r bont garllaw gael ei hadeiladu yn 1975. Mae'r eglwys, a gysegrwyd i'r Santes Fair, yn dyddio o'r 13g.

Burton
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,213, 1,279 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,382.58 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7119°N 4.9189°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000935 Edit this on Wikidata
Cod OSSM984056 Edit this on Wikidata
Cod postSA62 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/au y DUHenry Tufnell (Llafur)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Burton (gwahaniaethu).

Ceir cromlech Neolithig gerllaw, ac mae Castell Benton yn wreiddiol yn dyddio o'r 13g, er iddo gael ei ail-adeiladu yn llwyr yn y 1930au.

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,041.

Burton

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[3]


Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Burton, Sir Benfro (pob oed) (1,213)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Burton, Sir Benfro) (119)
  
10%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Burton, Sir Benfro) (737)
  
60.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Burton, Sir Benfro) (169)
  
33.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]