Castell Cas-wis
castell yng Nghas-wis, Sir Benfro
Castell mwnt a beili yw Castell Cas-wis, a godwyd yng nghyfnod y Normaniaid yng Nghymru gan un o Ffleminiaid de Penfro o'r enw Wizo (Cymreigiad: 'Wis') cyn 1130, wedi iddo gipio rhannau halaeth o gantref Daugleddau. Saif ei adfeilion ar gwr pentref Cas-wis yn Sir Benfro.
Math | castell mwnt a beili, safle archaeolegol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Cas-wis |
Sir | Pen-y-bont ar Ogwr |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 112.1 metr |
Cyfesurynnau | 51.826785°N 4.871144°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | PE077 |
Ymosodwyd ar y castell gan fyddin gynghreiriol o wŷr Deheubarth a milwyr William fitz Gerald, ewythr Gerallt Gymro, yn 1147.[1] Dinistriwyd y castell gan Llywelyn Fawr yn 1220, ond ail-adeiladwyd ef. Daeth yn bencadlys arglwyddiaeth Normanaidd Cas-wis.[2]