Gerallt Gymro

archddiacon Brycheiniog a llenor yn yr iaith Ladin

Roedd Gerallt Gymro (neu Giraldus Cambrensis yn Lladin) (c.1146- c.1223) yn eglwyswr a hanesydd canoloesol Cymreig. Ei enw bedydd oedd Gerald de Barri (Ffrangeg Normanaidd). Roedd yn ysgolhaig a chwaraeodd ran bwysig yng ngwleidyddiaeth eglwysig ei ddydd. Roedd o dras gymysg, hanner Cymreig, hanner Normanaidd ac mae hyn yn elfen amlwg yn ei agwedd a'i yrfa. Fe'i gwerthfawrogir yn bennaf heddiw am ei ddau lyfr arbennig am Gymru sy'n rhoi golwg unigryw ar fywyd y wlad ar ddiwedd y 12g.

Gerallt Gymro
St.David's Cathedral - Dreieinigkeitskapelle 5 Giraldus Cambrensis.jpg
Cerflun o Gerallt yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi
Ganwyd c. 1146 Edit this on Wikidata
Castell Maenorbŷr Edit this on Wikidata
Bu farw 13G Edit this on Wikidata (55 oed)
Henffordd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth mapiwr, hanesydd, ysgrifennwr, gweinidog, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd caplan Edit this on Wikidata
Tad William de Barri Edit this on Wikidata
Mam Angharad ferch Nest Edit this on Wikidata
Gerallt Gymro gan Robert Richards, 1933

Teulu a blynyddoedd cynnarGolygu

 
Castell Maenorbŷr, lle ganwyd Gerallt Gymro

Roedd Gerallt yn ysgolhaig mawr hyddysg yn yr iaith Ladin. Fe'i ganwyd yn 1146 yng nghastell Maenor Bŷr, Sir Benfro yn fab i Angharad, merch Nest (fl.1100-1120), merch Rhys ap Tewdwr) a William de Barri, arglwydd Normanaidd Ynys y Barri.

Rhwng c.1162-74 bu'n fyfyriwr ym Mharis.

Treuliodd gyfnod fel archddiacon Brycheiniog yn Aberhonddu. Roedd ei ewythr Dafydd (neu 'David FitzGerald'), yn esgob Tyddewi, a phan fu farw yn 1176 dewisodd y Cymry Gerallt i'w olynu, ond gwrthododd Archesgob Caergaint ei dderbyn gan benodi Sais yn ei le. Dyna un rheswm pam yr oedd Gerallt yn gobeithio y byddai'r Cymry yn gallu herio awdurdod Caergaint. Erbyn 1176/7-79 roedd yn ôl ym Mharis, yn astudio'r gyfraith a diwinyddiaeth.

Oddeutu 1184 fe'i penodwyd yn glerc yn llys Harri II.[1] Yn 1185 hwyliodd i'r Iwerddon yng ngosgordd y Tywysog John, mab Harri II. Ffrwyth y daith oedd dau lyfr Topographia Hibernie (Hanes Lleoedd Iwerddon) (1188) a Expurgnatto Hibernica (Hanes Goresgyniad Iwerddon) (1189).

Y Daith Trwy GymruGolygu

Yn 1188 roedd Baldwin, Archesgob Caergaint, am deithio oddi amgylch