Castell Margam
Plasty mawr o Cyfnod Fictoraidd ym Margam ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot yw Castell Margam.[1] Mae'n adeilad rhestredig Gradd I ym Mharc Gwledig Margam yng ngofal cyngor bwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot.
Math | plasty gwledig, castell |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Margam Estate |
Lleoliad | Margam |
Sir | Margam |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 59 metr |
Cyfesurynnau | 51.5628°N 3.7254°W |
Arddull pensaernïol | yr Adfywiad Gothig |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Fe'i hadeiladwyd gan y pensaer Thomas Hopper ar gyfer Christopher Rice Mansel Talbot (1803–1890) dros gyfnod o ddeng mlynedd, rhwng 1830 a 1840, ar safle a oedd, o’r 11g hyd at ddiddymu’r mynachlogydd, yn abaty.
Er ei fod yn cael ei alw'n "gastell", mae'r adeilad mewn gwirionedd yn blasty mawr cyfforddus, yn un o lawer o gestyll "ffug" a godwyd yn y 19g yn ystod yr Adfywiad Gothig.
Arhosodd y plasty ym meddiant y teulu Talbot tan 1942, pan gafodd ei werthu i'r diwydiannwr David Evans-Bevan, a ganfu fod yr tŷ yn rhy fawr iddo fyw ynddo; wedyn aeth yr adeilad yn adfail, ac fe'i difrodwyd yn ddifrifol gan dân ym 1977. Mae'r tŷ yn dal i gael ei adfer.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Margam Castle", Gwefan Coflein; adalwyd 6 Mawrth 2020
- ↑ "Margam Castle", Gwefan Parc Gwledig Margam; adalwyd 6 Mawrth 2020