Abaty
Adeilad crefyddol ar gyfer cymuned o fynachod neu leianod yw abaty (o'r Lladin abbatem 'abad' + tŷ). Fel rheol disgwylid i'r gymuned gynnwys o leiaf ddeuddeg mynach neu leian gydag abad neu abades yn ben arnyn nhw. Weithiau byddai llun neu gerflun o'r abad neu'r abades a sedydlodd yr abaty yn eu dangos yn dal yr abaty yn eu dwylo. Ar ôl i'r abatai yng Nghymru a Lloegr gael eu diddymu yn yr unfed ganrif ar bymtheg cafodd nifer o'r adeiladau eu troi'n eglwysi neu eu defnyddio at ddibenion seciwlar.
Math | mynachlog, religious complex, cymuned crefyddol |
---|---|
Crefydd | Cristnogaeth |
Pennaeth y sefydliad | abad, abades |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceid nifer o abatai yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol, e.e. Abaty Cymer ger Dolgellau ac Abaty Ystrad Fflur yng Ngheredigion.
Rhestr abatai Cadw
golyguRhestrir y canlynol ar restr Cadw:
- Abaty Talyllychau, Sir Gaerfyrddin
- Abaty Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin
- Abaty Ystrad Fflur, Ceredigion
- Abaty Maenan, Sir Conwy
- Abaty Glyn y Groes, Sir Ddinbych
- Abaty Dinas Basing, Sir y Fflint
- Abaty Ynys Enlli, Gwynedd
- Abaty Cymer, Gwynedd
- Abaty Tyndyrn, Sir Fynwy
- Abaty Grace Dieu, Sir Fynwy. OS: SO451131.
- Abaty Margam, Castell-nedd Port Talbot
- Abaty Nedd, Castell-nedd Port Talbot. OS: SS738974.
- Abaty Llandudoch, Sir Benfro
- Abaty Ystrad Marchell, Powys
- Abaty Cwm Hir, Powys