Castell Tretŵr

castell rhestredig Gradd I yn Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin

Castell ym mhentref Tretŵr, de Powys, Cymru, yw Castell Tretŵr (Saesneg: Tretower Castle).

Castell Tretŵr
Mathcastell Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTretŵr Edit this on Wikidata
SirPowys
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr89.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.883928°N 3.18559°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO1821 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwBR014 Edit this on Wikidata

Castell mwnt a beili oedd ar y safle'n wreiddiol yn y 12ed ganrif, a godwyd (neu a atgyfnerthwyd yn sylweddol gan Picard, milwr Eingl-Normanaidd). Erbyn tua 1230 gwyddom fod beili newydd wedi ei godi o fewn yr hen feili, a bod hwnnw'n un crwn a thal, gyda tho'n gorchuddio'r cyfan. Yn y 1300au, codwyd llawer o adeiladau preswyl i ffwrdd o'r adeiladau milwrol hyn a thros y blynyddoedd atgyfnerthwyd y rhain yn hytrach na'r castell mwnt a beili gwreiddiol. Mae'r rhain yn cael eu hadnabod fel Llys Tretŵr.

Dolenni allanol

golygu
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.