Caswallon fab Beli
Cymeriad sy'n ymddangos ym Mhedair Cainc y Mabinogi yw Caswallawn fab Beli. Roedd yn fab, yn ôl traddodiad i Beli Mawr mab Mynogan.
Yn yr ail gainc, Branwen ferch Llŷr, pan aeth Bendigeidfran a'i lu drosodd i Iwerddon i ddial cam Branwen, gadawodd saith gŵr ar ôl i warchod ei deyrnas dan awdurdod Caradog fab Brân. Pan ddychwel gweddillion byddin Brân, maent yn darganfod fod Caswallawn wedi lladd y rhain, gan ddefnyddio clogyn hud fel na ellid ei weld, a'i fod wedi ei wneud ei hun yn frenin ar Ynys Prydain. Yn y drydedd gainc, chwedl Manawydan fab Llŷr, mae Pryderi a Manawydan yn teithio i wneud gwrogaeth i Gaswallon.
Ceir cyfeiriad ato hefyd yn chwedl Lludd a Llefelys; lle mae'r ddau brif gymeriad yn frodyr iddo. Ymddengys hefyd yn rhai o'r Trioedd. Yn Historia Regum Britanniae, cyfeiria Sieffre o Fynwy at arwr o'r enw Cassibelaunus filius Heli, a roir ei enw yn yr addasiadau Cymraeg o waith Sieffre fel Caswallawn mab Beli Mawr.
Gellir casglu ei fod wedi seilio ar y cymeriad hanesyddol Cassivelaunus, brenin Brythonaidd, efallai ar lwyth y Catuvellauni, a fu'n brif wrthwynebydd Iŵl Cesar pan ymosododd ar Brydain yn 54 CC.