Roedd Catherine Belsey (13 Rhagfyr 194014 Chwefror 2021) yn feirniad llenyddol ac yn academydd yng Nghymru.

Catherine Belsey
Ganwyd13 Rhagfyr 1940 Edit this on Wikidata
Caersallog Edit this on Wikidata
Bu farw14 Chwefror 2021 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethysgolhaig llenyddol, ysgrifennwr, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Seisnig, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Cafodd ei geni yng Nghaersallog, yn ferch i'r athrawes Rita (nee Mallett), a'r peiriannydd Jack Prigg.[1] Cafodd ei addysg yn yr ysgol Godolphin and Latymer, Llundain, yng Ngholeg Somerville, Rhydychen, ac wedyn ym Mhrifysgol Warwick. Roedd hi'n Cadeirydd y Canolfan Theori Beirniadol a Diwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd (1988-2003). Yna symudodd i Brifysgol Abertawe (2006–2014). Roedd hi'n awdures y llyfr dylanwadolCritical Practice (1980).[2] Daeth yn Athro Gwadd Saesneg ym Mhrifysgol Derby. Cymrodor Cymdeithas Ddysgedig Cymru ers 2013 oedd hi.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Neil Badmington; Julia Thomas (21 Chwefror 2021). "Catherine Belsey obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Mawrth 2021.
  2. David Lodge (1988). Modern Criticism and Theory. Longman. ISBN 978-0582494602.
  3. "Catherine Belsey". Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Cyrchwyd 4 Mawrth 2021.