Catherine Margretta Thomas

un a fu’n bwysig yn recordio dawnsiau gwerin Cymru

MaeCatherine Margretta Thomas (18801972) yn adnabyddus am recordio dawns Gymreig y traddodiad Nantagrw.

Bywyd Cynnar

golygu

Ganwyd Catherine Margretta Thomas yn 1880[1], i'w rhieni Daniel a Hannah Davies yn Nantgarw.[2]

Tra'n blentyn roedd hi'n mwynhau gwylio'r dawnsiau lleol.[3]

Oherwydd nad oedd yr eglwysi lleol yn hoff o ddawnsio gwerin, nid oedd mam Catherine Margretta Thomas ei hun yn awyddus i'w merch fynd i weld y dawnsiau hyn, ond llwyddodd Catherine i ddarbwyllo ei thad i fynd â hi i weld yr arddangosiadau. Roedd twf Anghydffurfiaeth yng Nghymru yn golygu bod dawnsio gwerin bron wedi diflannu yn Nantgarw erbyn i Catherine Margretta Thomas fod yn ei harddegau.[3]

Cymdeithas Dawns Werin Cymru

golygu

Roedd dawnsio yn dirywio os yn anghyson[3] erbyn 1911 pan anwyd merch Catherine Margretta Thomas, Ceinwen Thomas (Dr. Ceinwen Thomas yn ddiweddarach [4]). Ond gwanhaodd dylanwad Anghydffurfiaeth ac erbyn i Ceinwen Thomas fynychu'r ysgol roedd hi'n trafod traddodiad dawnsio yn Nantgarw gyda'i mam.[3] Ar ôl i Ceinwen Thomas adael y coleg cyfarfu â Walter Dowding o Gymdeithas Genedlaethol Ddawns Werin Cymru. Soniodd wrtho am atgofion ei mam o ddawnsio gwerin yn Nantgarw. Rhoddodd hi mewn cysylltiad â Doris Freeman. Gyda’i gilydd gweithiodd Catherine Margretta Thomas, Ceinwen Thomas a Doris Freeman i nodi’r camau dawnsio o’r dawnsiau traddodiadol y gallai Catherine Margretta Thomas eu cofio.[3] Yna trosglwyddwyd y nodiadau hyn i Gymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru gan Ceinwen Thomas. [5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Lile, Emma (1999). A Step in Time: Folk Dancing in Wales (yn Saesneg). National Museum of Wales Publications. ISBN 978-0-7200-0474-8.
  2. "Catherine Margretta Thomas (Welsh)". dawnsio.com (yn Welsh). Welsh National Folk Dance Society. Cyrchwyd 16 Medi 2011.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 "Easter Course Address (English)". dawnsio.com. Welsh National Folk Dance Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-31. Cyrchwyd 16 Medi 2011.
  4. "Dr Ceinwen H. Thomas 1911 – 2008 | Hanes Plaid Cymru".
  5. "Tom John's Rally / Comments" (yn Saesneg). thesession.org. Cyrchwyd 16 Medi 2011.