18g - 19g - 20g
1830au 1840au 1850au 1860au 1870au - 1880au - 1890au 1900au 1910au 1920au 1930au
1875 1876 1877 1878 1879 - 1880 - 1881 1882 1883 1884 1885


Digwyddiadau golygu

Genedigaethau golygu

Marwolaethau golygu

Eisteddfod Genedlaethol (Caernarfon) golygu

Tywydd golygu

Gaeaf 1880-81 golygu

  • Heth 1880 – 1881

“Yn 2013 cafwyd gaeaf oer a hir. Wrth drawsgrifio rhai o ddyddiaduron Edward Evans, [1] sylweddolais bod rhywbeth tebyg wedi digwydd yn ystod y gaeaf 1880 – 1881. Ffermwr oedd EE ac yr oedd yn cofnodi’r tywydd bob dydd. Fe’i syfrdanwyd gan eira buan a syrthiai ar 20 Hydref 1880. Roedd hyn yn gychwyn wythnos o dywydd oer. Ail-gychwynnodd y tywydd hynod o oer yn y flwyddyn newydd ar 4 Ion 1881 efo rhew caled am wythnos. Parhâi’r tywydd hwn efo wythnos eiräog ar yr 11 Ion 1881. Gwaethygodd y tywydd fwy fyth ar 17 Ion 1881 efo storm eira tri diwrnod, ac fe gafodd ei adrodd mewn papurau newyddion yn fynych. Yn ei ddyddiadur, mae EE yn cyfeirio at achos o fenyw a aeth ar goll yn ystod y storm, a bron colli ei bywyd. Roedd ganddi blant adref heb wres. Parhaodd y tywydd oer tan ddiwedd y mis, a disgrifiai EE y problemau a wynebai wrth geisio teithio o gwmpas gogledd Sir Benfro yr adeg honno oherwydd y lluwchfeydd a fu’n gyndyn iawn o ddadlaith. Bu pwl o dywydd oer arall, yn hwyr ym mis Chwefror â’r pridd yn rhy galed i aredig. Wedyn, o 20 Mawrth 1881 tan 8 Ebrill 1881 yr oedd rhew caled pob nos. Hyd yn oed ym mis Mai 1881, mae EE yn cofnodi effeithiau’r heth:

10 Mai 1881: torri eithyn – y rhew wedi lladd yr holl eithyn ym mhob man.