Catrawd Droed y 69ain (De Swydd Lincoln)
(Ailgyfeiriad o Catrawd Droed y 69ain)
Catrawd o droedfilwyr yn y Fyddin Brydeinig oedd Catrawd Droed y 69ain (De Swydd Lincoln). Sefydlwyd 2il Fataliwn Catrawd Droed y 24ain ym 1756, ac ym 1758 ymwahanodd y bataliwn o'r gatrawd honno gan ffurfio Catrawd Droed y 69ain. Ail-enwyd yn Gatrawd Droed y 69ain (De Swydd Lincoln) ym 1782. Cafodd ei chyfuno â'r Gatrawd (Gymreig) 41ain i ffurfio'r Gatrawd Gymreig ym 1881. Ysgarlad gyda ffesin gwyrdd Lincoln oedd gwisg y gatrawd hon.[1]
Math o gyfrwng | uned filwrol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1758 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Chant, Christopher. The Handbook of British Regiments (Llundain, Routledge, 1988), t. 174.