Gwyrdd Lincoln
Lliw gwyrdd sy'n gysylltiedig â choedwigwyr Gogledd Lloegr, a chwedl Robin Hwd yn enwedig, yw gwyrdd Lincoln. Yn hanesyddol cafodd brethyn o'r lliw hwn ei gynhyrchu yn nhref Lincoln[1] ac mae'r term yn dyddio o'r 16g.[2] Heddiw mae'n disgrifio gwyrdd yr olewydd[3] gydag arlliw melyn neu frown[2] sydd yn felynach ac yn fwy gwelw na gwyrdd y goedwig, yn felynach ac yn oleuach ond hefyd yn gryfach na gwyrdd cypresol, ac yn fymryn mwy pŵl na gwyrdd y celyn.[3]
Enghraifft o'r canlynol | lliw |
---|
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Lincoln green. Oxford Dictionaries. Adalwyd ar 31 Hydref 2013.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Lincoln green. Collins English Dictionary. Adalwyd ar 31 Hydref 2013.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) Lincoln green. Merriam-Webster. Adalwyd ar 31 Hydref 2013.