Cau allan chwarel Dinorwig 1874

anghydfod llafur o ganlyniad i sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru

Roedd cau allan chwarel Dinorwig 1874 yn anghydfod llafur yn chwarel Dinorwig ym mis Mehefin 1874.[1]

Ar Ebrill 27 1874, cafodd cyfarfod ei gynnal yn nhafarn y Queen’s Head yng Nghaernarfon, mewn ymateb i anfodlonrwydd cynyddol ymysg y chwarelwyr, yn enwedig gweithwyr Chwarel y Penrhyn a Chwarel Dinorwig. O ganlyniad sefydlwyd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Roedd nifer o berchnogion y chwareli yn amharod i dderbyn bodolaeth yr undeb

Pleidlais

golygu

Ar 18 Mehefin, 1874 roedd y ‘dydd Gosod’ pwysig, pan ofynwyd i chwarelwyr Dinorwig ddewis rhwng yr undeb a’u gwaith. Yn y dyddiau a ddilynodd, dewisodd 2,200 o chwarelwyr yr undeb, ac 11 i'r gwrthwyneb. Cafodd tua 2,200 o chwarelwyr eu cloi allan o chwarel Dinorwig ym mis Mehefin, ond ar ôl pum wythnos cytunodd y rheolwyr i dderbyn bodolaeth yr undeb.

Gweler hefyd

golygu

Cau allan chwarel Dinorwig 1885

Cyfeiriadau

golygu