Caernarfon

tref arfordirol yng Ngogledd Cymru

Tref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Caernarfon. Mae'n enwog yn bennaf oherwydd Castell Caernarfon, sy'n gastell mawr o feini a godwyd gan Edward I o Loegr. Daw enw'r dref o gaer gynharach, sef Segontium, y gaer Rufeinig sydd ar dir uwch ar gyrion y dref. Y gaer hon a roddodd yr enw "Caer Seiont yn Arfon" neu "Caer Saint yn Arfon", a ddaeth yn ddiweddarach yn Gaernarfon. Mae gan y dref boblogaeth o 9,611 gyda 81.6% yn siaradwyr Cymraeg (97.7% yn yr oedran 10-14), yn ôl Cyfrifiad 2001. "Cofi" y gelwir rhywun a aned yn y dre.

Caernarfon
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth9,615 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaernarfon Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.14°N 4.27°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH485625 Edit this on Wikidata
Cod postLL55 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map

Mae Caerdydd 198.7 km i ffwrdd o Gaernarfon ac mae Llundain yn 335.9 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 12.7 km i ffwrdd.

Castell Caernarfon o'r gorllewin
Ffotograff ffotocrôm o tua 1890-1900

Hanes golygu

Mae Caernarfon yn safle hanesyddol sydd wedi tyfu dros y canrifoedd i fod yn un o brif drefi Gwynedd a gogledd-orllewin Cymru. Darganfuwyd olion o waith amddiffynnol cyn-Rufeinig ar safle Twthill, ger y castell presennol. Roedd yn well gan y Rhufeiniaid ddewis safle fymryn i'r de o'r dref i godi eu caer newydd Segontium yn OC 75. O'r safle hwnnw roeddent yn medru rheoli'r mynediad i benrhyn Llŷn a chadw golwg ar Afon Menai ac Eryri. Mae eglwys Llanbeblig, ger y gaer, yn perthyn i ddiwedd y cyfnod Rhufeinig. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu gan Peblig, un o feibion Macsen Wledig, a gysylltir ag Elen Luyddog a Chaernarfon yn y chwedl Cymraeg Canol Breuddwyd Macsen Wledig. Yng nghainc gyntaf Pedair Cainc y Mabinogi cysylltir y dref â Branwen ferch Llŷr.

Ychydig a wyddys am hanes y dref yn y canrifoedd ar ôl i'r Rhufeiniaid ymadael. Cododd yr arglwydd Normanaidd Hugh d'Avranches, Iarll Caer, gastell mwnt a beili yng Nghaernarfon tua 1090 ar safle'r castell presennol. Ond fe'i cipiwyd gan y Cymry a bu Caernarfon yn nwylo tywysogion Gwynedd hyd y goresgyniad Seisnig yn 1283. Credir fod gan y tywysogion un o'u llysoedd yno. Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaernarfon yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

 
Y castell o gyfeiriad y dre
 
Cwch yn harbwr
 
Yr harbwr
 
Y castell

Codwyd Castell Caernarfon gan Edward I o Loegr ar ôl iddo feddiannu Gwynedd. Fe'i cynlluniwyd ar batrwm muriau dinas Caergystennin a thyfodd bwrdeistref Seisnig yn ei chysgod. Yn 1986 gosodwyd y castell a'r muriau ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, fel rhan o'r safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.[1]

Gwnaethpwyd difrod helaeth i'r castell yn ystod y Gwrthryfel Cymreig (1294-1295) dan arweiniad Madog ap Llywelyn. Ymladdwyd Brwydr Twthil ger y dref ym 1401 rhwng llu Owain Glyndŵr ac amddiffynwyr y dref, ac ymosododd rhyfelwyr Glyn Dŵr ar y dref a'r castell yn 1403 a 1404, ond heb lwyddo i'w cipio.

Ar ddechrau'r 19g roedd Caernarfon yn dref Gymreig fywiog a dyfodd yn gyflym fel porthladd ar gyfer allforio llechi. Codwyd cei newydd ar lan Afon Seiont ac agorwyd Rheilffordd Nantlle i gludo llechi o chwareli Dyffryn Nantlle gan Robert a George Stephenson yn 1827-28. Hefyd yn ystod y 19g, daeth Caernarfon i fod yn un o brif ganolfannau'r byd argraffu a newyddiaduraeth yng Nghymru, ac ar ei fwyaf llewyrchus drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.[2]

Erbyn heddiw mae Caernarfon yn dref farchnad brysur gydag un o'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y wlad.

Cysylltiadau cludiant golygu

Mae gwasanaeth bws rheolaidd (bob 10 munud yn ystod y dydd) yn cysylltu'r dref gyda'r Felinheli, Bangor ac ymlaen i Landudno. Mae gwasanaethau rheolaidd hefyd yn cysylltu Caernarfon gyda Porthmadog, Pwllheli a Dyffryn Nantlle sy'n golygu bod tua 4 bws yr awr yn cysylltu Bontnewydd gyda'r dref. Mae gwasaneth bws bod hanner awr yn mynd i Fethel, Llanrug a Llanberis.

Sefydliadau golygu

Y Diwydiant Teledu golygu

Ers sefydlu S4C yn yr 1980au cynnar, mae'r diwydiant teledu wedi dod a gwaith i dref y Cofis. Er bod dylanwad y diwydiant yn y dref wedi dirywio ers yr 1990au cynnar, mae nifer o gwmniau teledu yn parhau i fod â swyddfeydd yn y dref. Mae pencadlysoedd y cwmnïau canlynol yng Nghaernarfon:

Mae gan y cwmnïau hyn hefyd swyddfeydd yn y dref:

Mae'r dref hefyd yn gartref i safle stiwdio cwmni Barcud Derwen lle mae rhaglen Uned 5 (Antena Dime Goch) a rhaglen bêl-droed Sgorio yn cael eu darlledu unwaith yr wythnos. Rhaglenni eraill sy'n cael eu cynhyrchu yn gyson yn y dref yw Y Sioe Gelf (Cwmni Da), CNEX (Griffilms/Cwmni Da) a Sgorio Cymru (Rondo).

Eraill golygu

Ar lan Doc Fictoria saif adeilad ar batrwm hen waarws (ond a godwyd fel adeilad pwrpasol ym 1981) sydd yn bencadlys Gwasanaeth Archifau Gwynedd.

Hynodion golygu

  • Gwrachen gam
 
Gwrachen Gam, Twtil, Caernarfon, lloches i hen wrach unwaith, ond yr enw ar lafar o hyd

Mae yna lecyn creigiog ar ben Twtil, Caernarfon sydd yn fan chwarae traddodiadol i’r Cofis. “Grachan gam” i’w ei enw ar lafar heddiw - tybed beth yw tarddiad y fath enw? Crachan? (scab) - posib - y graith ar y graig efallai? Gwrachen? (y pysgodyn, wrasse, loach). Ond na, dyma holi T. Meirion Hughes, bardd ac un o wybodusion tref Caernarfon, a chael mai gwrach sydd yma, yn ôl chwedl beth bynnag, a bod rhywun rhywdro wedi trio’i saethu, gan adael olion y bwled yn y graig.

Pen Twtil a'r paent eto - uwch hen Gaer,
Gwrachen Gam a'i hogo;
Ni theimlaf ing wrth ddringo
Esgyn i fryn yn y fro.

Ni wyddys pwy oedd y wrach, a pham ceisio ei saethu.[3]

Pobl o Gaernarfon golygu

 
Yr olygfa o ogledd-gorllewin, Castell Caernarfon

Clybiau Chwaraeon golygu

Mae C.P.D. Tref Caernarfon[4] yn chwarae yn y Gynghrair Undebol. Mae dau glwb lleol arall yn y dref, sef Caernarfon Wanderers sy'n chwarae yn Nghyngrair Gwynedd a Caernarfon Borough[5] sy'n chwarae yn adran gyntaf Cynghrair Caernarfon a'r Cylch. Mae Tîm Pêl-droed Merched Caernarfon yn chwarae yng Uwchgynghrair Merched Cymru a sefydlwyd yn nhymor 2009/10.

Cartref C.P.D. Tref Caernarfon a'r tîm merched yw'r Ofal. Mae Caernarfon Borough yn chwarae ar Ffordd yr Aber, tra bod Caernarfon Wanderers yn defnyddio Cae Top, cartref Bryncoch Utd ar y gyfres C'mon Midffild!.

Mae Clwb Rygbi Caernarfon[6] yn chwarae yn Adran 4 (Gogledd Cymru) Cynghrair SWALEC, ac mae ail-dîm y clwb yn chwarae yng Nghyngrair Gwynedd.

Cartref y clwb rygbi yw'r Morfa, a'u clwb cymdeithasol oedd 'Clwb y Bont' ar gyfres Tipyn o Stad.

Clybiau Chwaraeon Eraill:

  • Clwb Hwylio Caernarfon
  • Clwb Golff Caernarfon
  • Clwb Nofio Caernarfon

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Caernarfon (pob oed) (9,615)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Caernarfon) (7,879)
  
85.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Caernarfon) (8252)
  
85.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Caernarfon) (1,686)
  
39.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Eisteddfod Genedlaethol golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon ym 1886, 1894, 1906, 1921, 1935, 1940, 1943, 1959 a 1979. Am wybodaeth bellach gweler:

Gefeilldref golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Castles and Town Walls of King Edward in Gwynedd". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 31 Mai 2019.
  2.  Bethan Jones Parry (Mehefin 2013). Caernarfon, Prifddinas yr inc. Cylchgrawn Barn.
  3. Bwletin Llên Natur rhifyn 67
  4. Gwefan C.P.D. Tref Caernarfon[dolen marw]
  5. "caernarfonborofc.co.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-30. Cyrchwyd 2021-01-01.
  6. clwbrygbicaernarfon.co.uk
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.