Cedrwydden
Coeden fytholwyrdd yw'r gedrwydden (lluosog: cedrwydd) (Saesneg: Cedar) sy'n aelod o deulu'r Pinaceae ac yn perthyn yn agos iawn i'r pinwydd. Mynyddoedd Himalaia oedd eu tiriogaeth frodorol ac ardal y Môr Canoldir a gallant dyfu ar uchder o 1,500–3200 metr o lefel y môr. Tarddiad y gair yw'r Roeg: kedros.
Delwedd:View from the Barouk Forest 1.JPG, Cedrus deodara Manali 2.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Safle tacson | genws |
Rhiant dacson | Abietoideae, Pinaceae |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Disgrifiad
golyguGall coed cedrwydd dyfu i uchder o 30–40 metr a cheir arogl sbeis ar y pren. Yn aml, mae'r canghennau'n llydan a'r rhisgl wedi cracio. Mae'r dail ar ffurf nodwyddau 6–60 mm o ran hyd. Mae eu hadau o fewn cônau sydd ('moch coed' fel y'u gelwir yng ngogledd Cymru), a rhwng 6–12 cm o ran hyd a 3–8 cm o led.
Meddygaeth amgen
golyguDefnyddir rhannau o'r gedrwydden yn gymorth i leddfu symptomau annwyd, dolur gwddw a phlorod.
Symbol genedlaethol
golyguY gedrwydden yw symbol genedlaethol Libanus gan i'r wlad fod yn enwog ers canrifoedd am ei thyfu. Dyma hefyd yw llysenw'r tîm pêl-droed cenedlaethol Libanus.
Mathau eraill
golygu- Cedrwydden Ariannaidd (Saesneg: Mount Atlas neu Silvery Cedar)
- Cedrwydden Goch (Saesneg: Western red cedar)
- Cedrwydden Wen (Saesneg: white cedar)
- Cedrwydden Libanus (Saesneg: cedar of Lebanon)
- Cedrwydden Ffug (Saesneg: bastard cedar)