Cefn Du

bryn (442m) yng Ngwynedd

Bryn sy'n ffurfio'r rhan fwyaf gogleddol o fynyddoedd Yr Wyddfa yn Eryri yw Cefn Du, hefyd Cefn-du. Saif i'r gorllewin o bentref Llanberis ac i'r de o Lanrug. Mae Bwlch y Groes yn ei wahanu oddi wrth gopa Moel Eilio yn y de.

Cefn Du
Mathbryn, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanberis Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr442 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.120918°N 4.170318°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH5484560381 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd71 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMoel Eilio Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Ceir nifer o chwareli llechi ar ei lethrau dwyreiniol, yn cynnwys Chwarel Glynrhonwy a Chwarel Cefn Du.

Chwedl y Brenin Arthur golygu

 
Carreg Arthur ar lethrau Cefn Du
 
Golygfa o ardal Llanrug o lethrau Cefn Du a dynnwyd ger Carreg Arthur

Ers talwm, yn ôl yr hen chwedl, roedd carreg enfawr yn agos at ganol y pentref yng Nglan Moelyn, sef "Carreg Arthur". Dywedir bod y Brenin Arthur wedi dod heibio ac wedi taflu'r garreg gryn bellter i lethrau Cefn Du, ac mae yno o hyd! Gadawodd hyn lyn bychan a elwir yn 'Lyn Glan Moelyn' oedd yn ffefryn fel lle i sglefrio wedi iddi rewi! Bellach mae'r 'llyn' wedi sychu a'i ddatblygu'n lle chwarae.

Cyfeiriadau golygu