Chwarel Glynrhonwy
Chwarel lechi, yn cynnwys nifer o weithfeydd, gerllaw Llanberis, Gwynedd oedd Chwarel Glynrhonwy. Roedd yn ymestyn ar hyd y llechweddau rhwng Llyn Padarn a'r llechweddau i'r gorllewin o'r llyn, hyd ar gopa Cefn Du.
Math | chwarel |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1236°N 4.1481°W |
Cod OS | SH 563 607 |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Credir i'r chwarel gael ei gweithio o ddiwedd y 18g. Roedd y gweithfeydd uchaf ar dir y Goron, a'r gweithfeydd isaf ar dir stad Glynllifon. O 1803 rhoddwyd lês i John Evans a'i gwmni ar y gweithfeydd ar dir y Goron, ond dywedir ei fod yn cael trafferth gyda chwarelwyr annibynnol oedd yn bygwth ei weithwyr.
O'r 1820au ymlaen, dechreuwyd mecaneiddio'r chwareli, ac yn y 1860au datblygodd yn sylweddol, gyda nifer o inclenau a melin ar lan Llyn Padarn. Caeodd y chwarel yn 1930, ond bu ychydig o weithio arni o 1945 hyd 1948. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddid y twll isaf, "Chwarel Isaf", i gadw bomiau, gyda rheilffordd yn arwain yno.