Celf sy'n darlunio pethau cyffredin a thestunau pob dydd, ac sydd weithiau'n cynnwys y fath wrthrychau yn ddefnydd y gwaith, yw celf bop.

Roy Lichtenstein (1967)
Medzilaborce - Amgueddfa Andy Warhol Museum

Datblygodd y mudiad ym Mhrydain a'r Unol Daleithiau yn y 1950au, a chyrhaeddodd ei anterth yn y 1960au. Bathwyd yr enw pop art gan y beirniad celf Lawrence Alloway gan gyfeirio at yr arfer o bortreadu agweddau o ddiwylliant poblogaidd.[1] Gwnaed eiconograffiaeth newydd o ddelweddau'r cyfryngau, hysbysebion, llyfrau comics, ac arwyddion.

Ymhlith yr arlunwyr pop enwocaf mae Andy Warhol, Roy Lichtenstein, David Hockney, a Jasper Johns.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Pop art. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Mehefin 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gelf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.