Celwydd a Choncwest

Llyfr hanes gan Hefin Jones yw Celwydd a Choncwest: Yr Ymerodraeth Brydeinig ar draws y byd sy'n ymdrin â'r Ymerodraeth Brydeinig. Mae'n cynnwys cipolwg ar wreiddiau cynnar yr ymerodraeth: ymgyrchoedd y Saeson yn goresgyn tir eu cymdogion Celtaidd, ac ymdrechion coron Lloegr i wladychu holl wledydd Prydain ac Iwerddon yn yr Oesoedd Canol.

Celwydd a Choncwest
AwdurHefin Jones
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi02/11/2016
ArgaeleddAr gael
ISBN9781845275440
GenreHanes Cymru

Yn ogystal â'r tiroedd a gafodd eu lliwio'n binc ar fapiau'r Fictoriaid, dilynir oliau'r ymerodraeth hyd heddiw mewn penodau ar ymyriadau milwrol y Deyrnas Unedig yn y Dwyrain Canol, sydd yn ôl yr awdur yn ffurf fodern ar imperialaeth.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.