Celwydd a Choncwest
(Ailgyfeiriad o Celwydd a Choncwest - Yr Ymerodraeth Brydeinig ar Draws y Byd)
Llyfr hanes gan Hefin Jones yw Celwydd a Choncwest: Yr Ymerodraeth Brydeinig ar draws y byd sy'n ymdrin â'r Ymerodraeth Brydeinig. Mae'n cynnwys cipolwg ar wreiddiau cynnar yr ymerodraeth: ymgyrchoedd y Saeson yn goresgyn tir eu cymdogion Celtaidd, ac ymdrechion coron Lloegr i wladychu holl wledydd Prydain ac Iwerddon yn yr Oesoedd Canol.
Awdur | Hefin Jones |
---|---|
Cyhoeddwr | Gwasg Carreg Gwalch |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 02/11/2016 |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781845275440 |
Genre | Hanes Cymru |
Yn ogystal â'r tiroedd a gafodd eu lliwio'n binc ar fapiau'r Fictoriaid, dilynir oliau'r ymerodraeth hyd heddiw mewn penodau ar ymyriadau milwrol y Deyrnas Unedig yn y Dwyrain Canol, sydd yn ôl yr awdur yn ffurf fodern ar imperialaeth.